Mae 6 Music yn addo “gig arbennig a phersonol iawn” pan fydd y Manic Street Preachers o’r Coed Duon yn perfformio yng Nghlwb Ifor Bach ar gyfer Gŵyl 6 Music.
Daeth y cyhoeddiad am y gig arbennig ar raglen radio Steve Lamacq ddoe (dydd Mercher, Mawrth 16) y bydd y perfformiad yn cael ei ddarlledu’n fyw ar yr orsaf ac ar Radio Wales ar yr un pryd o 7 o’r gloch nos Iau, Mawrth 31.
Bydd y gig hefyd ar gael ar BBC Sounds am gyfnod wedi’r darllediad, a bydd rhai caneuon ar gael i’w gwylio eto ar BBC iPlayer, gydag uchafbwyntiau’n cael eu darlledu ar deledu BBC Cymru a BBC Four.
Mae disgwyl i’r Manics chwarae rhai o’u caneuon mwyaf adnabyddus, a bydd 75 pâr o docynnau ar gael yn rhad ac am ddim ac yn cael eu dyrannu ar hap drwy bleidlais Gwasanaethau Cynulleidfa BBC Studio.
Gall cynulleidfaoedd gofrestru i gael y cyfle i gael tocynnau yn https://www.bbc.co.uk/showsandtours/shows/6music-festival-manics-31march22.
Mae’r cyfnod cofrestru ar agor nawr a bydd yn cau am hanner nos ddydd Sul, Mawrth 20.
Bydd Gŵyl 6 Music yn cael ei chynnal rhwng dydd Gwener, Ebrill 1 a dydd Sul, Ebrill 3 ac mae’n cynnwys perfformiadau byw, setiau DJs, sesiynau holi ac ateb a mwy ar draws sawl lleoliad ym mhrifddinas Cymru, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant, Y Neuadd Fawr, Y Plas yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a’r Tramshed.
‘Perfformiadau byw anhygoel a thrawiadol’
“Mae’r Manic Street Preachers yn adnabyddus am eu perfformiadau byw anhygoel a thrawiadol,” meddai Camilla Pia, Comisiynydd Cynorthwyol 6 Music a chynhyrchydd yr ŵyl.
“Rydyn ni wedi arfer eu gwylio nhw’n chwarae mewn arenâu, felly rydw i wrth fy modd eu bod nhw’n rhoi’r cyfle i’n gwrandawyr fod yn rhan o’r hyn sy’n argyhoeddi i fod yn gig arbennig a phersonol iawn yng Nghlwb Ifor Bach fel rhan o Ŵyl 6 Music.
“Yn ôl y sôn, roedden nhw i fod i chwarae yno’n gynnar yn eu gyrfa ond wnaethon nhw ddim.
“Mae 6 Music yn falch o fod yn rhan o’r stori o wireddu hyn o’r diwedd.”
Bydd perfformiad Manic Street Preachers yn dilyn noson cynhesu BBC Music Introducing nos Fercher, Mawrth 30, sydd hefyd yn digwydd yng Nghlwb Ifor Bach.
Y cyflwynwyr fydd Tom Robinson o 6 Music a Bethan Elfyn o BBC Radio Wales, a bydd perfformiadau gan artistiaid o Gymru a ffefrynnau BBC Music Introducing gan gynnwys Panic Shack, Adwaith, Malan a Hemes.
Mae’r brif ŵyl yn cynnwys Little Simz, Khruangbin, Father John Misty ac aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, IDLES, Bloc Party, Johnny Marr, Pixies, Art School Girlfriend, audiobooks, beabadoobee, Big Joanie, Carwyn Ellis & Rio 18, Cat Power, Curtis Harding, David Holmes, Deyah, Elkka, Emma-Jean Thackray, Ezra Collective, Georgia Ruth, Green Gartside, Gruff Rhys, Gwenno, H. Hawkline, Ibeyi, Ibibio Sound Machine, aelodau o Ladies of Rage, Lucy Dacus, Mykki Blanco, Obonjayar, Orlando Weeks, OVERMONO, Porij, Self Esteem, Sherelle, Sports Team, The Bug Club, The Mysterines, Wet Leg a mwy.
Mae rhagor o wybodaeth am Ŵyl 6 Music ar gael drwy fynd i https://www.bbc.co.uk/events/eggrn3
Tocynnau
Rhaid i gynulleidfaoedd fod yn 18 oed neu’n hŷn i wneud cais am docynnau i’r Manic Street Preachers yng Nghlwb Ifor Bach a gellir cyflwyno un cais y pen.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod erbyn dydd Mercher, Mawrth 23.
I weld y telerau ac amodau llawn, ewch i https://www.bbc.co.uk/backstage/6musicfestival/thursday/#termsandconditions