Fe fydd llu o sêr Cymraeg a Chymreig yn perfformio yng nghastell Caerdydd i ddathlu jiwbilî Brenhines Loegr.

Bydd y gyngerdd yn cael ei chynnal rhwng 3 o’r gloch a 7 o’r gloch ar ddydd Sadwrn, Mehefin 4 ac ymhlith yr adloniant mae cantorion, corau, bandiau a cherddorfa.

Y prif berfformwyr sydd wedi’u cadarnhau hyd yn hyn yw’r cantorion Aled Jones, Shân Cothi, Mike Peters, Bonnie Tyler a John Owen Jones, y drymiwr a dyn tywydd Owain Wyn Evans, y digrifwr Mike Doyle, Côr Meibion Pendyrus a Cherddorfa Welsh Pops.

Mae disgwyl i ragor o enwau gael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.

Yn ystod y gyngerdd, bydd nifer o’r caneuon Cymreig mwyaf o’r 70 mlynedd diwethaf yn cael eu perfformio, a’r rheiny’n cynnwys caneuon Tom Jones, Shirley Bassey a Shakin Stevens, gyda deuawd arbennig gan Bonnie Tyler a Mike Peters.

Ar ddiwedd y digwyddiad, bydd sgrîn fawr yn dangos cyngerdd Palas Buckingham tan 10.30yh.

Aled Jones “wedi cyffroi’n fawr”

“Dw i wedi cyffroi’n fawr o gael cyflwyno a pherfformio yng Nghyngerdd Castell Caerdydd i Ddathlu’r Jiwbilî Platinwm,” meddai Aled Jones.

“Pa le gwell i ddathlu’r garreg filltir o achlysur nag yng nghastell Caerdydd eiconig lle byddaf yng nghwmni llu o anfarwolion Cymreig i greu atgofion cerddorol i’r teulu oll i’w rhannu?”

Mae Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn “llwyddiant enfawr”, meddai.

“Pa le gwell i fwynhau dathliadau’r Jiwbilî nag yn lleoliad godidog Castell Caerdydd?” meddai.

“Dw i’n sicr y bydd y diwrnod yn llwyddiant enfawr ac yn ffordd briodol o ddiolch i’r Frenhines am ei blynyddoedd lu o wasanaeth ymroddedig i’r genedl.”

Tocynnau

Pris tocynnau i oedolion yw £32.50, a gall plant o dan 16 oed fynd yn rhad ac am ddim gyda rhiant sy’n talu’r pris llawn, gyda phris tocynnau i ragor o blant o dan 16 oed yn £10.

Gall plant o dan bedair oed fynd yn rhad ac am ddim, gyda nifer gyfyngedig o docynnau ar gael.

Mae modd prynu picnic mewn bocs i’w gasglu ar y diwrnod, a bydd bwyd a diod ar gael o’r bar.

Mae’r trefnwyr yn cydweithio ag elusen Shelter Cymru fel partner swyddogol ar gyfer y digwyddiad, ac mae modd cyfrannu at yr elusen wrth archebu tocynnau neu yn ystod y digwyddiad.