Bydd cerflun o’r awdures Elaine Morgan yn cael ei ddadorchuddio yn y Cymoedd heddiw (Mawrth 18).

Cafodd Elaine Morgan, o Bontypridd, ei geni i deulu o lowyr ond daeth i’r amlwg wrth arloesi ym myd y celfyddydau ac ym myd gwyddoniaeth.

Yn ogystal â bod yn awdures lwyddiannus, roedd Elaine Morgan, a fu farw yn 2013 yn 92 oed, yn ysgrifennu ar gyfer y teledu, yn ddarlithydd, yn anthropolegydd, ac yn ffeminist.

Y cerflun ohoni yn Aberpennar yn Rhondda Cynon Taf yw’r ail gerflun o fenyw go iawn i gael ei godi yng Nghymru.

Cafodd y cerflun cyntaf, o brifathrawes ddu gyntaf Cymru, Betty Campbell, ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd y llynedd.

Grŵp Merched Mawreddog Cymru sy’n gyfrifol am y ddau gerflun, ac maen nhw’n bwriadu codi pum cerflun i anrhydeddu pum menyw dros Gymru o fewn pum mlynedd.

Dywedodd Helen Molyneux, sylfaenydd Merched Mawreddog Cymru bod Elaine Morgan yn “eicon ffeministaidd a dramodydd hyfryd”, a’u bod nhw wrth eu boddau’n gallu anfarwoli ei llwyddiannau fel ei bod hi’n cael ei chofio yn ei hardal am flynyddoedd.

Elaine Morgan

Dros gyfnod o 30 mlynedd, enillodd Dr Elaine Morgan nifer o wobrau a sgriptio rhai dramâu teledu amlwg megis How Green Was My Valley a The Life and Times of Lloyd George.

Cafodd ei geni ym mhentref Trehopcyn ger Pontypridd, ac enillodd ysgoloriaeth i fynd i Brifysgol Rhydychen.

Pan gyrhaeddodd, tybiwyd ei bod hi’n trio am swydd fel glanhawr oherwydd ei hacen, ond aeth yn ei blaen i lwyddo’n academaidd, gan gadeirio nifer o gymdeithasau gwleidyddol a pherffeithio ei sgiliau llenyddol yno.

Ar ôl graddio bu’n dysgu am dair blynedd gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr, a dechreuodd ysgrifennu dramâu yn y 50au.

Cafodd ei sgriptiau teledu cyntaf eu derbyn cyn iddi fod yn berchen ar deledu, a hi oedd un o’r menywod cyntaf i wneud argraff ym myd y teledu.

Trodd ei sylw at wyddoniaeth yn y 70au, gyda theori newydd ar esblygiad dynol, a daeth ei llyfr, The Descent of Women, yn rhan bwysig o symudiad Rhyddid i Ferched.

Parhaodd i ysgrifennu colofn i’r Western Mail nes oedd hi yn ei 90au, a derbyniodd OBE yn 2009 am ei gwaith.

‘Ysbrydoli menywod ymhobman’

Dywedodd ei mab, Gareth Morgan: “Dw i’n gwybod y byddai Elaine wedi bod wrth ei bodd gyda gwaith ymgyrch gerfluniau Merched Mawreddog Cymru, nid oherwydd y gydnabyddiaeth i’w llwyddiannau ei hun ond i ddathlu bywydau’r holl fenywod rhyfeddol y mae Cymru wedi’u creu.

“Mae gwaith Elaine wedi helpu i ysbrydoli menywod ymhobman, a dw i wedi gweld negeseuon gan fenywod dros y byd a ysgrifennodd ati’n diolch iddi am newid eu bywydau.

“Yn 2013, fe es i gyda hi i seremoni lle y cafodd ei gwneud yn rhyddfreiniwr Rhondda Cynon Taf, a dw i’n gwybod bod yr hoffter oedd ganddi tuag at ei mamwlad yn golygu mwy iddi na’r holl wobrau rhyngwladol a enillodd yn ystod ei hoes.

“Felly, diolch yn fawr iawn i’r holl bobol a sefydliadau sydd wedi gweithio mor galed i wneud yr ymgyrch hon yn llwyddiant.”

Emma Rodgers, sy’n adnabyddus am greu’r cerflun o Cilla Black yn Lerpwl, sydd wedi dylunio a cherfio’r cerflun.