Mae Ashok Ahir wedi cael ei benodi’n Llywydd newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Andrew Evans wedi cael ei benodi’n is-lywydd.

Ers mis Medi 2021, mae Ashok Ahir wedi bod yn Llywydd Dros Dro’r Llyfrgell.

Ymgynghorydd sy’n arbenigo mewn codi arian a datblygu busnesau ar gyfer cwmnïau newydd, elusennau, a chwmnïau dielw, yn enwedig yn y sector diwylliannol, yw Andrew Evans.

Dywedodd Ashok Ahir ei fod yn edrych ymlaen at arwain “grŵp rhagorol o ymddiriedolwyr ar adeg sy’n cynnig llu o gyfleoedd”.

“Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru raglen waith uchelgeisiol sydd â’r nod o gyflawni amcanion strategaeth pum mlynedd newydd,” meddai Ashok Ahir.

“Yn ogystal â bod yn gartref i gof y genedl, mae gan y Llyfrgell hefyd rôl bwysig i’w chwarae wrth i ni adolygu, ail-ddychmygu a dathlu amrywiaeth y profiad Cymreig.”

‘Cyfleoedd gwych’

Mae’r blynyddoedd nesaf yn cynnig cyfleoedd gwych i’r Llyfrgell Genedlaethol, meddai Andrew Evans.

Andrew Evans

“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael y cyfle hwn i wasanaethu fel Is-lywydd un o sefydliadau diwylliannol mawr Cymru,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda staff ymroddedig y Llyfrgell wrth i ni geisio gofalu am gasgliad digyffelyb y Llyfrgell – un o drysorau mawr treftadaeth a diwylliant Cymru.

“Mae’r blynyddoedd nesaf yn cynnig cyfleoedd gwych i’r Llyfrgell gynyddu nifer ac amrywiaeth yr ymwelwyr a’r darllenwyr ac mae bod yn rhan o’r daith honno’n destun cryn gyffro imi.”

‘Penodiad gwych’

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ei fod yn croesawu’r ddau benodiad.

“Rwy’n hapus iawn i weld Ashok yn cael ei benodi i swydd y Llywydd, ac rwyf eisoes yn ddyledus iawn iddo am ei arweiniad a’i gefnogaeth fel Llywydd dros dro yn ystod y chwe mis diwethaf,” meddai Pedr ap Llwyd.

“Mae hwn yn benodiad gwych a bydd y Llyfrgell yn elwa’n fawr ar y penodiad hwn.

“Rydyn ni hefyd yn croesawu Andrew i swydd yr Is-lywydd ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef: rydyn ni’n gwybod ei fod yn berson galluog iawn sydd â sgiliau, cymwyseddau a phrofiadau eang mewn sawl maes, a bydd y Llyfrgell yn sicr yn elwa arnynt.”

‘Sgiliau a dealltwriaeth newydd’

Mae Llywydd y Llyfrgell yn atebol i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, a dywedodd y Dirprwy Weinidog Dawn Bowden: “Rwy’n falch iawn bod Ashok wedi’i benodi i’r rôl uchel ei phroffil, strategol a dylanwadol hon yn y sector diwylliannol yng Nghymru.

“Bydd ganddo rôl hanfodol wrth sicrhau bod y Llyfrgell yn parhau i gyflawni canfyddiadau’r Adolygiad wedi’i Deilwra a gweithredu cynllun strategol pum mlynedd y Llyfrgell.

“Bydd yn llysgennad effeithiol dros y Llyfrgell gan ychwanegu at ei brofiad o fod yn Llywydd dros dro.

“Mae hefyd yn bleser mawr penodi Andrew yn Is-lywydd. Bydd yn eiriolwr brwd dros y Llyfrgell a bydd yn dod â sgiliau a dealltwriaeth newydd i’r Bwrdd.

“Bydd ei arbenigedd mewn codi arian yn ychwanegu gwerth mawr at waith y Llyfrgell.”