Roedd Dai Jones Llanilar yn bennaf adnabyddus am gyflwyno rhaglenni megis Cefn Gwlad, Siôn a Siân, Noson Lawen, ac Y Sioe Fawr ar S4C, ac am fod yn un o ffigurau amlycaf y byd amaethyddol yng Nghymru.

Bydd ei angladd yng nghapel Carmel, Llanilar am 12 o’r gloch heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 19), ac yntau wedi marw’n 78 oed ar Fawrth 4.

Cafodd ei eni yn Llundain, a’i rieni yn werthwyr llaeth, ond symudodd at berthnasau yn Llangwyryfon, Ceredigion yn blentyn gan nad oedd yn hoff o fywyd y ddinas.

Drwy ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman yn 1970 y camodd Dai Jones i fywyd cyhoeddus Cymru, ac roedd yn denor amlwg.

Dros ei yrfa fe enillodd sawl anrhydedd arall gan gynnwys Gwobr Goffa Syr Bryner Jones am wasanaethu’r Sioe Fawr, MBE, a BAFTA am ei gyfraniad i ddarlledu yng Nghymru.

Roedd yn llais cyfarwydd ar y radio hefyd, gan gyflwyno’r rhaglen Ar Eich Cais am flynyddoedd ar BBC Radio Cymru.

Bu’n wael ers cryn amser, ac ym mis Rhagfyr 2020, fe benderfynodd ymddeol o’i waith ym myd darlledu yn sgil salwch.

Diolch, Dai Jones Llanilar

Manon Steffan Ros

“Diolch i Dai, mae Cymru’n adnabod ei hun yn well”

‘Y byd darlledu a chefn gwlad yn dlotach heb Dai Jones, Llanilar’

Y cyflwynydd poblogaidd wedi marw yn 78 oed