Ar y diwrnod mae o’n cyrraedd pen y dalar, mae’r cennin Pedr yn penderfynu agor yn llydan a llawen dan y perthi. Maen nhw’n dawnsio’n ddioglyd i awel sydd bron iawn, iawn yn gynnes. Mae’r gwanwyn wedi dod, a Dai wedi crwydro’n bell dros ael y bryn, gan adael y blodau yma’n wên i gyd ar ei ôl. Yn y caeau a’r coedlannau, mae Cymru heddiw’n flodau i gyd er cof amdano.

Diolch i Dai, mae Cymru’n adnabod ei hun yn well.