Mi wnes i yrru i Wrecsam i wylio’r Felinheli yn chwarae yn erbyn Brickfield ddydd Sadwrn diwethaf. Roeddwn i ar yr A55,  tua hanner awr i ffwrdd o’r cae, pan weles i’r car o fy mlaen yn arafu. Wnes i ddod â fy nghar fy hun i stop ac wedyn sylwais ar fwg yn codi tua 50 metr i ffwrdd, uwch ben lori fawr roedd wedi dod i stop hefyd.