Fe ges i sgwrs dros decst gyda ffrind wythnos yma, a fynegodd imi’r un pryder ag y mae nifer wedi’i fynegi’n ddiweddar am y posibiliad o wrthdaro uniongyrchol rhwng Rwsia a’r Gorllewin. Mae’n bosibiliad y mae’n rhaid i ni bellach ei wynebu. Yn yr un modd ag y gall gymryd un fatsien i losgi tŷ haf, gallai un fwled ddiarffordd newid popeth.