Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd rhaglen Dechrau’n Deg yn cael ei ehangu i 2,500 yn fwy o blant o dan bedair oed.
Y bwriad, fel sy’n cael ei nodi yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, yw ehangu gofal plant o ansawdd uchel i bob plentyn dwy oed yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae tua 36,000 o blant mewn ardaloedd difreintiedig yn manteisio ar y rhaglen, gyda 9,000 o blant dwy oed yn cael gofal plant rhan-amser wedi ei ariannu.
O fis Medi, bydd y cynllun yn ehangu’r ardaloedd y maen nhw eisoes yn eu targedu, ac mae cyllid o £20m wedi ei ddarparu i wneud hynny dros y tair blynedd nesaf.
Fe fydd pwyslais penodol hefyd ar gryfhau ac ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i blant ar hyn o bryd.
Yn y pen draw, dywed y Llywodraeth y bydd modd i bob plentyn rhwng dwy a thair oed yn gymwys gael 12 awr a hanner o wasanaeth gofal wedi ei ariannu am 39 wythnos y flwyddyn.
‘Effaith gadarnhaol’
Heddiw (dydd Mercher, Mawrth 16), fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan ymweld â Hwb Canolfan Gymunedol Ringland yng Nghasnewydd, sy’n darparu gwasanaethau Dechrau’n Deg.
“Rwy wedi clywed gan rieni a gofalwyr am yr effaith gadarnhaol y mae Dechrau’n Deg wedi ei chael ar eu teuluoedd,” meddai.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar, ac mae’r rhaglen wych hon yn cynnig y ffordd orau o wneud hyn.
“Rydyn ni’n gwybod bod plant sy’n mynd i leoliadau’r blynyddoedd cynnar sydd o ansawdd uchel yn cael budd o dreulio amser mewn amgylchedd hapus a magwrus gyda’u cyfoedion, a’u bod wedi’u paratoi yn well ar gyfer dechrau yn yr ysgol gynradd o ganlyniad i hynny.
“Mae hwn yn fenter uchelgeisiol, ond bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau llawer o deuluoedd yng Nghymru ac yn ein helpu i gyrraedd ein nod o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050.”
‘Dyma’r ffordd iawn o gefnogi ein plant’
Mae’r Aelod Dynodedig Siân Gwenllian yn croesawu’r datblygiad, sy’n efelychu ymrwymiad o’r Cytundeb Cydweithio lofnododd Plaid Cymru.
“Dyma’r cam cyntaf tuag at wireddu ein huchelgais o ddarparu addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant i bob plentyn yng Nghymru,” meddai.
“Bydd gofal plant sydd ar gael i bawb yn gwneud gwahaniaeth, gan roi budd i blant a theuluoedd ym mhob cwr o’r wlad, a hwb hollbwysig i’n cymunedau. Dyma’r ffordd iawn o gefnogi ein plant.
“Rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad ar y cyd i ehangu gofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddarparu a chryfhau gofal plant cyfrwng Cymraeg.
“Rwy’n edrych ymlaen at wireddu hyn dros y tair blynedd nesaf.”