Mae creu gorsaf ynni niwclear newydd ar Ynys Môn “yn ôl ar yr agenda”, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Dywed Simon Hart fod yr angen i farchnadoedd ynni ymateb yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin – sydd wedi arwain at gynnydd enfawr mewn prisiau ynni – wedi sbarduno trafodaeth newydd ar greu Wylfa Newydd.
Gwnaeth y sylwadau wrth siarad mewn sesiwn friffio i’r cyfryngau.
Chwalodd prosiect Wylfa Newydd yn 2020 pan dynnodd y datblygwr Hitachi yn ôl, ond dywed Simon Hart nad yw hynny yn golygu diwedd y cynllun.
“Mae’n ymddangos i mi ein bod yn symud yn llawer mwy tuag at sgwrs ddifrifol am sut y gellid ychwanegu Wylfa at ein capasiti cynhyrchu niwclear cyn bo rhy hir.” meddai.
“Mae hi’n ddyddiau cynnar, ond rwy’n credu bod yr arwyddion yn eithaf da.
“Rwy’n credu ei fod yn ôl ar yr agenda ac yn y diwydiant niwclear, mae Wylfa yn dal i gael ei gweld fel safle sy’n arwain y byd.
“Felly gan adael yr holl faterion cyfredol o amgylch Wcráin o’r neilltu, roedd Wylfa wastad yn safle da ac mae’n mynd i barhau i fod yn safle da.”
Amddiffyn taith Boris Johnson i Saudi Arabia
Fe wnaeth Simon Hart hefyd amddiffyn cyfarfod Boris Johnson gydag arweinwyr Saudi Arabia i drafod y cyflenwad ynni.
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn Saudi Arabia ar hyn o bryd yn trafod cynhyrchu olew.
“Er gwaethaf y gwahaniaethau, rydym bob amser wedi cael perthynas gyda Saudi Arabia,” meddai Simon Hart.
“Felly, dydy’r berthynas honno a chael deialog gyson yn ddim byd newydd.”
Ynni adnewyddadwy
Fodd bynnag, mae hunangynhaliaeth ynni yn parhau i fod yn uchelgais y Deyrnas Unedig, a gallai ynni adnewyddadwy fod yn allweddol er mwyn cyflawni hynny, yn ôl Simon Hart.
Yn y sesiwn friffio, nododd y potensial ar gyfer tyrbinau gwynt arnofiol ar y môr yng Nghymru.
Datgelodd y byddai prydlesi gan Ystadau’r Goron, sy’n rheoli gwely’r môr o amgylch y Deyrnas Unedig, “ar gael” mor fuan â 2023.
“Mae hyn yn rhoi cyfle i gwrdd â’n hymrwymiadau sero net a chreu swyddi sylweddol yn y tymor byr,” meddai.