Mae TUC Cymru yn galw ar gyflogwyr i roi tâl i weithwyr sy’n gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn gofalu am rywun.

Yn ôl yr undeb, mae bron i 150,000 o bobol wedi gorfod ymddiswyddo o’u gwaith er mwyn gofalu am unigolyn arall, tra bod o gwmpas 75,000 wedi gorfod lleihau eu horiau yn y gweithle.

Maen nhw’n tybio bod y ffigyrau’n codi oherwydd bod y boblogaeth yn mynd yn hŷn, ac oherwydd bod mwy o bobol ag anableddau yng Nghymru erbyn hyn hefyd.

Erbyn heddiw, mae’n debyg hefyd ei bod hi 50% yn debygol y bydd y person cyffredin yng Nghymru yn gorfod gofalu am rywun cyn cyrraedd 45 oed.

Ar Ddiwrnod Gofalwyr Ifanc heddiw (dydd Mercher, Mawrth 16), mae TUC Cymru yn dweud y dylai’r gweithwyr hyn gael mwy o hyblygrwydd, yn ogystal â chael eu talu os ydyn nhw’n gorfod gofalu am rywun yn annisgwyl neu’n gorfod cymryd amser o’r gwaith am gyfnod i wneud hynny.

‘Angen i gyflogwyr wneud safiad’

Dywed Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, bod angen i gyflogwyr wneud mwy i gefnogi gweithwyr.

“Ddylai neb gael ei orfodi i roi’r gorau i weithio neu fethu â pharhau mewn gyrfa oherwydd cyfrifoldebau gofalu,” meddai.

“Wrth i fwy a mwy ohonon ni ysgwyddo’r cyfrifoldebau hyn tra ein bod yn dal i weithio, mae angen i gyflogwyr wneud safiad a rhoi’r cymorth a’r hyblygrwydd sydd eu hangen ar weithwyr a darparu gwyliau â thâl i ofalwyr.”

Fe fydd TUC Cymru a chorff Gofalwyr Cymru yn lansio arolwg er mwyn casglu gwybodaeth gan weithwyr am eu profiadau eu hunain yn gofalu am rywun.

Byddan nhw’n casglu data am effaith hynny ar eu gyrfaoedd ac am yr hyn mae gweithleoedd yn ei wneud fel cymorth.

“Er ein bod ni’n ymwybodol o’r ystadegau ar faint o weithwyr yng Nghymru sy’n gofalu am eraill, mae angen i ni nawr glywed eich straeon personol,” meddai Shavanah Taj wedyn.

“Sut ydych chi’n canfod cydbwyso gwaith a gofalu am eraill? Beth mae eich cyflogwr wedi’i wneud i’ch helpu? A sut mae undebau llafur yn eich helpu chi?”

“Efallai’ch bod chi ddim yn meddwl amdanoch chi’ch hun fel gofalwr ond os ydych chi’n darparu unrhyw fath o gefnogaeth i eraill – o gefnogaeth emosiynol i helpu i gymryd meddyginiaethau neu reoli arian rhywun, yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi.”

Bydd y data’n cael ei ddefnyddio i wthio ar y llywodraeth i ystyried beth sydd angen ei wneud ac i wthio ar gyflogwyr i wneud newidiadau hefyd.