Mae’r ffaith bod Nazanin Zaghari-Ratcliffe wedi cael ei rhyddhau gan awdurdodau Iran yn “newyddion gwych”, yn ôl Liz Saville Roberts.

Bu’r ddynes sydd o dras ddeuol Brydeinig ac Iranaidd yn y ddalfa ers 2016 ar ôl i Lywodraeth Iran ei chyhuddo o ysbïo a chynllwynio yn eu herbyn.

Roedd hi’n mynd â’i merch Gabriella i ymweld â theulu pan gafodd ei harestio, a chafodd ei dedfrydu i bum mlynedd o garchar, gan dreulio pedair blynedd yn y ddalfa a blwyddyn dan glo yng nghartre’r teulu.

Fodd bynnag, fe gafodd ei phasbort Prydeinig yn ôl yr wythnos hon, ac mae hi bellach ar ei ffordd adref.

Dydi ei gŵr Richard Ratcliffe, sy’n byw gyda’u merch chwech oed Gabriella yn Hampstead yn Llundain, ddim wedi gwneud sylw eto.

Roedd wedi ymgyrchu dros ei rhyddhau, gan gynnwys mynd ar streic newyn fis Hydref y llynedd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Liz Truss wrth BBC Breakfast fod sicrhau ei rhyddid yn “flaenoriaeth”.

Cefndir

Roedd dyled o £400m yn ymwneud â gorchymyn a gafodd ei ganslo ar gyfer 1,500 o danciau Chieftain yn dyddio’n ôl i’r 1970au wedi’i chysylltu â pharhau i gadw Nazanin Zaghari-Ratcliffe dan glo.

Roedd hyn er bod y Llywodraeth wedi mynnu na ddylid cysylltu’r ddau fater.

Dywedodd Liz Truss wrth y BBC ddydd Mercher (Mawrth 16) fod y ddyled yn “ddilys” a bod y Llywodraeth yn “chwilio am ffyrdd o’i thalu”.

Dywed Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, ei bod yn “foment anhygoel” i Mrs Zaghari-Ratcliffe a’i theulu ar ôl “profiad unigryw”.

‘Newyddion gwych’

“Mae’n newyddion gwych o’r diwedd bod y gwaith gan deulu Nazanin a’i haelod seneddol lleol – Tulip Siddiq – wedi dod i ffrwyth ar ôl amser mor hir,” meddai Liz Saville Roberts wrth golwg360.

“Fe gafodd hi brofiad echrydus tra yr oedd hi yn y carchar.

“Mi fydd hi’n ddiddorol iawn gweld pam ei bod hi wedi cael ei rhyddhau oherwydd bod llawer o sôn wedi bod am y ddyled hanesyddol i Iran am arfau – mae angen i ni gael gwybod pa ran mae hwnna yn chwarae.

“Ond rŵan hyn, mae rhywun jyst yn croesawu bod rhywun sydd wedi cael ei charcharu ar gam bellach ar y ffordd yn ôl at ei merch fach hi a’i gŵr.

“A chwarae teg, mae yna elfen o frolio rôl yr Ysgrifennydd Tramor Liz Truss yn hyn hefyd.

“Mae’n ddiddorol iawn bod y newid wedi digwydd rŵan hyn.”