Bydd cynlluniau newydd i leihau eiddo gwag sy’n “graith ar ganol trefi” Ceredigion yn cael eu hanfon at Lywodraeth Cymru.

Fe wnaeth cabinet yr awdurdod lleol lofnodi cynllun drafft yn ystod eu cyfarfod olaf cyn yr Etholiadau Lleol ym mis Mai.

Yn rhan o’r cynlluniau, mae’r Cyngor yn amlinellu mesurau gorfodi a allai gael eu gweithredu yn y sir pe baen nhw’n cael y golau gwyrdd gan Lywodraeth Cymru.

Fe gyfeiriodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, sydd â chyfrifoldeb dros dai, at y Gronfa Rheoli Eiddo Gwag, sy’n rhoi cyllid i awdurdodau lleol sy’n dymuno “cymryd camau gorfodi ar eiddo gwag yng nghanol y dref”.

Ar hyn o bryd, mae 16 eiddo wedi eu nodi fel rhai sy’n cael effaith andwyol ar yr ardal a’r gymuned leol, yn ôl adroddiad i’r Cabinet.

Rhai o amcanion y cynllun yw datgelu mwy o eiddo o’r fath a chodi ymwybyddiaeth perchnogion, cymunedau, busnesau a chynghorwyr o’r problemau.

Byddan nhw hefyd yn datblygu camau gorfodi a datblygu partneriaethau newydd er mwyn targedu eiddo gwag.