Mae perchennog busnes yn Aberystwyth yn dweud ei bod hi’n “hynod o siomedig” fod rhaid iddi symud ei busnes i rywle arall yn ddiweddarach eleni.

Cafodd Angeles Santos Rees, sy’n berchen ar fwyty Cegin Patagonia ac sy’n dod o’r Ariannin yn wreiddiol, wybod y byddai’r denantiaeth yn adeilad Y Cambria ger y Promenâd yn dod i ben ym mis Mehefin.

Mae hi wedi bod yn rhedeg Cegin Patagonia fel busnes ers dechrau 2021, ac ers mis Tachwedd y llynedd, mae hi wedi bod yn rhentu a buddsoddi arian mewn bwyty, a oedd wedi ei leoli yn hen uned bwyty Byrgyr.

Dywed na fyddai hi “byth bythoedd” wedi ystyried gwario arian pe bai hi’n gwybod y byddai hi’n gorfod symud allan ymhen ychydig fisoedd.

Mae’r adeilad wedi ei leoli ar bwys yr Hen Goleg, ac mae bwriad gan Brifysgol Aberystwyth i ymgorffori adeilad Y Cambria yn rhan o’u cynlluniau i ailddatblygu’r safle hwnnw.

Mae’r Brifysgol yn cydweithio gyda Chyngor Ceredigion ar y cynlluniau hynny, ac maen nhw wedi sicrhau dros £16m o gyllid o wahanol gronfeydd.

Cegin Patagonia

Fis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth Angeles Santos Rees gytuno i gymryd drosodd uned oddi wrth fwyty arall oedd yn arfer gweithredu yn adeilad y Cambria.

Byddai’r bwyty hwnnw, Byrgyr, wedi newid ei enw i Cegin Patagonia, i gyd-fynd â’r cynlluniau newydd.

Aled Rees, gŵr Angeles, yw un o’r rhai sy’n cyd-redeg busnes Byrgyr yn Aberystwyth, yn ogystal â busnesau Teithiau Tango a Siop y Pethe.

“Roedden nhw’n hapus i fi gymryd drosodd,” meddai.

“Roedd yr holl ddodrefn a’r nodweddion eraill yno’n barod, ond byddwn yn newid yr enw.

“Fe wnaeth Byrgyr siarad â’r landlord, achos roedd fy nghytundeb i gyda Byrgyr eu hunain. Roedd rhaid iddyn nhw sortio beth i’w wneud gyda’r brydles efo’r landlord.

“Ac fe ddaethon nhw’n ôl ata i, a dweud bod gan y landlord ddim problem bod y bwyty’n newid, ond doedd dim modd i’r brydles gael ei drosglwyddo i mi.”

‘Rhaid i ni adael ym mis Mehefin’

Roedd yn rhaid i berchnogion Byrgyr aros tan fis Awst eleni, gan mai dyna pryd y byddai cyfnod y brydles presennol yn dod i ben.

Ond yn y cyfamser, fe gafodd Angeles Santos Rees yr hawl i symud i mewn i’r adeilad, newid yr enw, a thalu’r rhent, ond mai perchnogion Byrgyr fyddai deiliaid y brydles am y tro.

“Roedd hyn yn eithaf anodd, ond dim ond am flwyddyn y bydden ni’n aros,” meddai Angeles.

“Fe wnaethon ni symud i mewn wedyn ym mis Tachwedd, ac fe wnes i ddechrau talu rhent.

“Fe wnes i fuddsoddi ychydig o arian yn gwneud gwaith cynnal a chadw yn yr adeilad.

“Bydden i byth bythoedd wedi symud i mewn i’r bwyty petawn ni’n gwybod y byddwn i’n cael cyfarfod mewn pedwar mis yn dweud bod rhaid i fi adael.

“Ac fe gawson ni’r cyfarfod hwnnw wythnos diwethaf, yn dweud bod rhaid i ni adael ym mis Mehefin.”

‘Dim ond elw ac arian sy’n bwysig’

Fe ddaeth y landlord i gytundeb â Phrifysgol Aberystwyth, sydd am ddatblygu’r adeilad yn rhan o gynlluniau’r Hen Goleg.

Dywed Angeles Santos Rees nad ydy hi’n beio’r Brifysgol am y sefyllfa, ond mae hi’n cwestiynu’r landlord.

“Does gen i ddim syniad pwy yw’r landlord,” meddai wrth golwg360.

“Dydw i erioed wedi ei gyfarfod e na siarad gydag e. Dw i ddim yn credu bod criw Byrgyr wedi ei gyfarfod e chwaith.

“Dw i’n meddwl bod y landlord yn ddyn o Loegr sy’n byw yn yr Unol Daleithiau, felly mae’n amlwg mai dim ond elw ac arian sy’n bwysig iddo, yn fy marn i.

“Rydyn ni wedi bod yn delio gyda gweinyddwr yr adeilad. Mae hi wedi bod yn glên iawn gyda ni, ac mae hi wedi bod yn help llaw yn y sefyllfa.

“Dw i ddim yn credu ei bod hi’n gwybod am hyn chwaith nes yn ddiweddar.”

Mae golwg360 wedi gwneud cais i siarad gyda landlord yr adeilad.

Ailddatblygu’r Hen Goleg

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth eu cynlluniau gyda’r adeilad.

“Gall Prifysgol Aberystwyth gadarnhau y daethpwyd i gytundeb â pherchnogion presennol y Cambria, gyda golwg ar ymgorffori’r adeilad yn rhan o brosiect ehangach yr Hen Goleg,” meddai.

“Mae’r Brifysgol yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion a phartneriaid eraill fel rhan o fenter ehangach i adfywio glan y môr Aberystwyth sydd wedi sicrhau £10.8m o Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae ailddatblygu’r Hen Goleg yn rhan o’r fenter hon.

“Bydd y cyllid ychwanegol yn hwb mawr i’r cynlluniau cyffrous sydd eisoes ar waith ar gyfer prosiect yr Hen Goleg a disgwylir iddo sicrhau manteision economaidd ychwanegol sylweddol i Aberystwyth a Cheredigion.

“Mae rhan o’r cyllid hwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i sicrhau o ganlyniad i’r cynlluniau presennol a pharhaus i adfywio’r Hen Goleg, gan ddangos yr effaith y mae prosiect yr Hen Goleg eisoes yn ei gael.

“Mae trafodaethau manwl gyda phartneriaid a chyllidwyr yn parhau, ac mae’r Brifysgol yn disgwyl rhyddhau manylion llawn am sut y bydd y cyllid ychwanegol o fudd i brosiect yr Hen Goleg unwaith y bydd y rhain wedi’u cwblhau, ac fel rhan o gyhoeddiad ehangach a arweinir gan Gyngor Sir Ceredigion.”

‘Wedi colli gobaith’

Os na fydd unrhyw newid, fe fydd Cegin Patagonia yn cau eu drysau ym mis Mehefin – cwta saith mis ar ôl iddyn nhw agor.

“Mae’n hynod o siomedig,” meddai Angeles Santos Rees wedyn.

“I ddechrau, bydden i byth wedi ysgwyd llaw gyda pherchnogion Byrgyr na thalu am y dodrefn os fasen i’n gwybod bod hyn yn dod.

“Fe gefais i fargen dda gan Byrgyr achos bydden i’n parhau â’r busnes.

“Ac am y tri mis cyntaf, doedden ni’n methu â gwneud busnes yn y lle cyntaf oherwydd Covid.

“Daethon ni i’r lle prydferth yma yn credu bod popeth yn ei le.

“Dydych chi’n methu â chael golygfa well na hyn. Roedd popeth edrych yn dda yma achos roedd Byrgyr wedi datblygu bwyty trawiadol yn y lle cyntaf.

“Ac ychydig fisoedd wedyn, rydyn ni’n cael gwybod bod rhaid i ni adael.

“Rydyn ni wedi colli gobaith yn llwyr.”

Bydd hi’n chwilio am leoliad arall i barhau â’r busnes, ond bydd hi fwy na thebyg yn canolbwyntio ar werthu nwyddau a chynnig gwasanaeth takeaway yn hytrach nag agor bwyty.

Cegin Patagonia yn agor yng ngogledd Ceredigion

Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol y filltir sgwâr ar rwydwaith Bro360 dros yr wythnos ddiwethaf