Mae’r rhai sy’n gwrthwynebu rhoi enwau cynghorwyr ar ystafelloedd mewn arena adloniant newydd yn Abertawe yn dweud bod y cynlluniau’n “wallgof”.

Roedd Cyngor Abertawe’n bwriadu talu teyrnged i Robert Francis-Davies, David Hopkins ac Andrea Lewis drwy roi eu henwau nhw ar ystafelloedd yn yr adeilad newydd sy’n werth miliynau o bunnoedd, cyn iddyn nhw dderbyn cwynion a phenderfynu gohirio’r cynlluniau.

Yn ôl Rob Stewart, arweinydd y Cyngor, y bwriad oedd “cydnabod cyfraniad unigryw” y cynghorwyr i’r prosiect, ac nad oedd cost ynghlwm wrth wneud hynny.

Ond yn dilyn ymateb petrusgar a beirniadaeth gan wrthwynebwyr gwleidyddol, mae’r Cynghorydd Rob Stewart wedi cyhoeddi ei fod e am ohirio’r broses enwi er mwyn cael sgwrs ehangach gyda phob plaid.

‘Syfrdan’

Dywedodd y Cynghorydd Lyndon Jones, arweinydd Ceidwadwyr Abertawe, roedd pobol oedd wedi cysylltu â fe ynghylch y broses enwi’n “syfrdan”.

“Oferedd gwallgof yw e,” meddai.

“Tra eu bod nhw [y tri chynghorydd] yn bobol iawn, mae hwn yn gam yn rhy bell ac yn gyfle wedi’i golli, oherwydd does bosib y dylai’r ystafelloedd fod wedi cael eu henwi ar ôl meibion a merched enwog o Abertawe, fel y bobol sydd wedi derbyn Rhyddid Dinas Abertawe, neu bobol o fyd adloniant fel Syr Harry Secombe neu Bonnie Tyler.”

Dywedodd y Cynghorydd Stewart fod y Cynghorydd Francis-Davies, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Fuddsoddiad, adfywiad a thwristiaeth, wedi gwasanaethu’r Cyngor ers dros 35 mlynedd a’i fod e wedi chwarae rhan fawr mewn prosiectau adfywio yn ogystal â bod yn gyn-Arglwydd Faer yn Abertawe ac yn ddirprwy arweinydd y Cyngor.

“Bydd cynghorwyr eraill, o’r gorffennol a’r presennol, a phobol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol hefyd yn cael eu hystyried wrth i ni ddod â datblygiadau eraill ar-lein,” meddai.

Teyrngedau

Dywedodd fod yr awdurdod, yn ddiweddar, wedi cydnabod y cyn-gynghorydd Paul Valerio o’r Ceidwadwyr fel aldramon am ei wasanaeth i Abertawe.

Y Cynghorydd Andrea Lewis yw cyd-ddirprwy arweinydd y Cyngor, ac mae hi’n Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am newid hinsawdd a thrawsnewid gwasanaethau, tra bod y Cynghorydd David Hopkins yn gyd-ddirprwy arweinydd ac yn Aelod Cabinet ar gyfer cyflawni a gweithrediadau.

Y weinyddiaeth Lafur sydd wedi gwthio’r cwch i’r dŵr ar brosiect yr arena, sy’n rhan o’r cynllun Bae Copr ehangach sy’n werth £135m.

Mae disgwyl i’r arena gostio ychydig o dan £50m.

Mae John Bishop ymhlith y digrifwyr uchel eu proffil fydd yn perfformio yno, ar Fawrth 15, tra bydd deuawd roc, Royal Blood, yno ar Fawrth 19.

Bydd Alice Cooper a The Cult yn perfformio yno ar Fai 23.

‘Hollol warthus’

Un sydd wedi beirniadu’r cynlluniau enwi yw’r Cynghorydd Chris Holley, arweinydd yr wrthblaid glymbleidiol rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a’r grŵp Annibynnol, ac mae’n dweud bod enwi’r ystafelloedd yn “hollol warthus”.

Dywedodd nad oedd yn gwrthwynebu’r tri chynghorydd o gwbl, ond ei fod yn gwrthwynebu enwi rhywbeth ar ôl gwleidydd presennol.

“Mae’n oferedd llwyr, yn amhriodol ac yn anghywir,” meddai.

“Mae’n fy atgoffa i rywfaint o Ogledd Corea. Beth ydyn ni am gael nesaf? Stadiwm Rob Stewart?”

Mae stryd sy’n rhan o’r cynllun Bae Copr yn talu teyrnged i’r pencampwr o wibiwr Cyril Cupid o Abertawe, oedd yn fab i ddynes o Gymru a gweithiwr sinc o India’r Gorllewin.

Mae’r Cyngor yn gobeithio rhoi enw’r awdur, dynes busnes ac ariannwr Amy Dillwyn ar y parc arfordirol newydd.

Ymateb y cynghorwyr

Dywed y Cynghorydd Robert Francis Davies nad oedd e’n ymwybodol o’r cynllun i enwi’r ystafell ymlaen llaw.

“Dw i’n teimlo’n eithaf gostyngedig, a bod yn onest,” meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Andrea Lewis iddi gael ei synnu.

“Dw i’n teimlo’n freintiedig iawn o gael yr anrhydedd honno,” meddai. “Fe wnaeth e fy nghyffwrdd i.”

“Dw i erioed wedi cael y fath sioc yn fy myw,” meddai’r Cynghorydd David Hopkins. “Ro’n i’n eithaf gostyngedig yn sgil y cyfan.

“Os oedd unrhyw un yn ei haeddu, Rob Stewart yw hwnnw.”

Ond awgrymodd y Cynghorydd Lyndon Jones y byddai’n well rhoi enwau’r cynghorwyr “uwchben drysau’r siopau gweigion niferus yn Abertawe”.

Cysylltodd y Cynghorydd Rob Stewart â’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol i ddweud bod y cynllun enwi ystafelloedd yn cael ei ohirio.

“Dw i’n mynd i oedi cyn enwi’r ystafelloedd hynny, o ystyried bod pobol wedi codi pryderon,” meddai.

Pont gopr Abertawe

Pont newydd yn Abertawe

Mae rhai pobl yn meddwl bod y bont yn edrych fel tortilla, mae eraill yn gweld bar siocled Crunchie ac eraill yn gweld cramwythen.