Mae Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, yn mynnu bod rhaid mynd i’r afael â’r “argyfwng” deintyddiaeth.

Daw ei sylwadau ar ôl i ffigurau ddangos bod 83 yn llai o ddeintyddion yn cynnig triniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd y llynedd o gymharu â 2020, a 117 yn llai nag yn 2019.

Cododd hi’r mater yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 8), gan annog y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r “sgandal”.

“Y bwrdd iechyd a welodd y canran uchaf o ran gostyngiad yn nifer y deintyddion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sy’n gwasanaethu trigolion yn fy rhanbarth i, gyda 22% yn llai o ddeintyddion yn 2021 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol,” meddai Sioned Williams.

“Mae cannoedd o bobol sydd wedi cael eu heffeithio gan yr argyfwng hwn wedi cysylltu â mi – gydag un fam o Orseinon yn dweud: ‘Mae gen i blentyn tair oed sydd erioed wedi ymweld â’r deintydd. Bob tro rwy’n eu ffonio maen nhw’n dweud taw dim ond argyfyngau maen nhw’n gallu eu gweld.’

“Mae cleifion eraill yn adrodd eu bod wedi cael triniaeth well yn y sector breifat, ac mae rhai cleifion hyd yn oed yn cael gwybod y bydden nhw’n cael eu gweld dim ond os ydyn nhw’n talu.

“Gyda gofal deintyddol rheolaidd yn hanfodol o ran atal problemau iechyd deintyddol rhag codi yn y lle cyntaf, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i’r afael â’r sgandal bod cleifion, yn enwedig plant, yn gorfod wynebu oedi sylweddol, neu’n cael eu gwrthod yn gyfan gwbl mewn llawer o achosion?”

Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod “gostyngiad yn nifer deintyddion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ne-orllewin Cymru yn bennaf oherwydd effaith newid ffiniau ar adrodd am ddata”.

“Mae Brexit a’r pandemig Covid hefyd wedi lleihau lefel y gweithgarwch deintyddol ar y cyfan a chaiff hynny ei adlewyrchu hefyd yn y ffigurau hyn,” meddai.

Ymateb i ymateb y Prif Weinidog

“Yn ei ymateb i’m cwestiwn, tynnodd y Prif Weinidog sylw at effeithiau ailstrwythuro ffiniau diweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wrth egluro’r gostyngiad mewn deintyddion ac effaith Covid ar wasanaethau,” meddai Sioned Williams wedyn.

“Fodd bynnag, nid yw hyn yn esbonio’r profiadau a rannwyd gyda mi gan gannoedd o etholwyr, sydd wedi amlinellu eu profiadau annerbyniol o fewn sector gofal deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Roeddwn eisoes wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau cyflym i sicrhau bod trigolion ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gallu cael mynediad at wasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Cyfaddefodd y Gweinidog Iechyd yn ei hateb i’m llythyr y ‘bydd oedi ar gyfer cleifion newydd sy’n chwilio am ofal rheolaidd.’

“Ond mae etholwyr, sy’n gleifion cofrestredig, yn dweud wrthyf eu bod yn cael eu troi i ffwrdd os nad ydyn nhw angen triniaeth frys.

“Mae angen i ni fod yn gwrando ar brofiadau uniongyrchol cleifion. Nid yn unig hyn, ond mae angen inni hefyd wrando ar y deintyddion hynny sy’n dweud taw amodau gwaith gwael yw’r prif reswm pam bod llawer o ddeintyddion yn gadael y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Mae Cymdeithas Deintyddol Prydain yn credu fod anhapusrwydd â chontractau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ffactor allweddol o ran egluro’r argyfwng hwn, gyda deintyddion ‘wedi blino’n lân’, yn ‘ddigalon’ ac yn gorfod cyrraedd ‘targedau amhosibl’.

“Mae hon yn sefyllfa enbyd ac yn sgandal.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r materion hyn, cymryd camau brys i wrthdroi’r argyfwng a sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at ofal deintyddol y GIG.”