Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd busnesau sy’n recriwtio prentisiaid ag anableddau yn llawn amser dros y flwyddyn nesaf yn derbyn cymhelliant ychwanegol o £2,000.

Nod y Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr ar gyfer Prentisiaid Anabl yw annog cyflogwyr i gael profiad uniongyrchol o fanteision recriwtio pobol ag anableddau.

Bydd y cynllun yn cael ei ymestyn o Ebrill 1 eleni tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, gyda chynnydd o £500.

Mae’r ymrwymiad yn cefnogi cynllun cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru, a gafodd ei gyhoeddi ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 8), sy’n rhoi blaenoriaeth i gefnogi’r bobol hynny sydd bellaf o’r farchnad lafur.

‘Gweithlu amrywiol’

Dywed Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, eu bod nhw wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobol ag anableddau i ddod o hyd i waith ac i aros mewn gwaith.

“Rydyn ni eisoes yn gweld yr effaith gadarnhaol y mae ein cymorth penodol yn ei chael o ran gwella canlyniadau’r farchnad lafur i bobl anabl,” meddai.

“Rwyf am weld hynny’n parhau fel rhan o’n hymrwymiad i newid bywydau pobol er gwell, a bydd ymestyn y cymhelliant prentisiaeth i’r anabl am flwyddyn yn allweddol i’n helpu i gyflawni hyn.

“Mae helpu pobol i oresgyn rhwystrau rhag dod o hyd i waith ac aros mewn gwaith yn ganolog i’n Cynllun Cyflogadwyedd newydd a ddatgelwyd yr wythnos hon.

“Mae’r cynllun yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru decach a mwy cyfartal lle rydym yn gweithio i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl na’i ddal yn ôl.

“Bydd prentisiaethau yn ein helpu i gyflawni hyn. Gallant helpu i ysgogi gweithlu amrywiol, yn barod at y dyfodol – gan gynnig cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o ansawdd uchel.”

Creu 125,000 o brentisiaethau

Mae’r Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr ar gyfer Prentisiaethau hefyd yn cael ei ymestyn nes Mawrth 31, yn hytrach na Chwefror 28.

Ers mis Awst 2020, mae dros 6,100 o brentisiaid newydd wedi cael eu recriwtio dan y cynllun, ac mae busnesau’n gallu hawlio hyd at £4,000 am bob prentis newydd dan 25 oed maen nhw’n eu cyflogi am dros 30 awr yr wythnos, a £2,000 am brentisiaid maen nhw’n eu cyflogi am lai na 30 awr.

Gall busnesau dderbyn £2,000 am bob prentis dros 25 oed maen nhw’n eu cyflogi am 30 awr neu fwy yr wythnos, a £1,000 am brentisiaid sy’n cael eu cyflogi am lai na 30 awr.

“Mae [prentisiaid] hefyd yn hanfodol i’n cynlluniau uchelgeisiol i adfer yn economaidd ar ôl Covid. Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i greu 125,000 arall o leoedd prentisiaeth i bob oed dros y pum mlynedd nesaf,” meddai Vaughan Gething.

“Mae ein Cynllun Cymhellion Prentisiaethau ehangach wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran annog busnesau i barhau i recriwtio prentisiaid tra ein bod i gyd wedi bod yn rheoli heriau Covid ac rwy’n falch ein bod wedi gallu ymestyn y pecyn cymorth ehangach hwnnw am un mis olaf.

“Rydym yn wlad fach ond uchelgeisiol, a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mae recriwtio prentis yn dod yn norm i gyflogwyr.”

Datgelu cynllun newydd i helpu mwy o bobol yng Nghymru i weithio

Bydd y cynllun yn helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer Cymru fwy teg a chyfartal lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, meddai Llywodraeth Cymru