Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu cynllun newydd i helpu mwy o bobol i ddod o hyd i waith, ac i aros mewn gwaith.
Yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, bydd y cynllun yn helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer Cymru fwy teg a chyfartal lle nad oes neb yn cael ei adael na’i ddal yn ôl.
Nod y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau newydd yw nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i gefnogi’r bobol sydd bellaf o’r farchnad lafur wrth ddod o hyd i waith.
Yn ogystal, mae’n canolbwyntio ar wella’r canlyniadau yn y farchnad i bobol anabl, pobol Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, menywod, a phobol â sgiliau isel.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys mesurau i helpu pobol i aros mewn gwaith drwy godi lefelau sgiliau ac atal pobol rhag peidio â chymryd gwaith neu golli cyflogaeth oherwydd cyflwr iechyd.
Mae’r cynllun yn cynnwys pum maes gweithredu, sef:
- Cyflawni’r Warant i Bobol Ifanc – er mwyn diogelu cenhedlaeth rhag effeithiau colli dysgu ac oedi wrth ymuno â’r farchnad lafur.
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd.
- Hyrwyddo gwaith teg i bawb – drwy annog cyflogwyr i wneud gwaith yn well, yn decach, ac yn fwy diogel.
- Rhoi mwy o gefnogaeth i bobol â chyflyrau iechyd hirdymor allu gweithio.
- Codi lefelau sgiliau a gwella hyblygrwydd y gweithlu.
Fel rhan o’r cynllun, bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’u partneriaid i helpu i sicrhau bod 90% o bobol ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.
Bydd hefyd yn gweithio i ddileu’r bwlch cyflog ar gyfer menywod, unigolion Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol, a phobol anabl, a dileu’r bwlch yn y gyfradd gyflogaeth rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig.
‘Cymru decach’
Wrth lansio’r cynllun newydd, dywedodd Vaughan Gething, ei fod yn nodi gweledigaeth Cymru ar gyfer “Cymru decach a mwy cyfartal lle rydym yn ymdrechu i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl na’i ddal yn ôl ac yn ymrwymo i newid bywydau pobol er gwell”.
“Drwy’r cynllun hwn rydym am godi pobol allan o dlodi a helpu pawb – yn enwedig y rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur – i lywio ac ymateb i’r heriau sy’n gysylltiedig â gwaith y byddant yn eu hwynebu drwy gydol eu bywydau, boed hynny drwy hyfforddiant, ailhyfforddi, uwchsgilio, newid gyrfa neu ddechrau busnes,” meddai.
“Bydd yn adeiladu ar y gwelliant sylweddol yn y farchnad lafur ac o ran sgiliau yng Nghymru ers cyhoeddi’r cynllun diwethaf yn 2018.
“Bydd hefyd yn ein helpu i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau Cymru drwy sicrhau amrywiaeth yn y gweithlu, gan fanteisio i’r eithaf ar ein doniau yng Nghymru a datblygu economi sy’n gweithio i bawb.
“Gadewch i ni fod yn glir, ni allwn ddarparu’r cyfan o’r miliynau coll a gollwyd drwy ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ond rydym wedi blaenoriaethu cyllidebau i hwyluso’r broses bontio ac i hybu ein buddsoddiad mewn pobOl a sgiliau.
“Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi ein huchelgais i fuddsoddi yn noniau ein pobol a rhoi’r £1bn a gollwyd yn ôl i Gymru.”
‘Agwedd flaengar’
Mae TUC Cymru wedi croesawu gweledigaeth Llywodraeth Cymru i wneud gwaith yn fwy cyfartal.
“Mae gweledigaeth Llywodraeth Cymru i wneud gwaith yn decach a datblygu gweithlu â lefel uchel o sgiliau i’w gweld yn glir yn y cynllun hwn,” meddai’r Ysgrifennydd Cyffredinol Shavanah Taj.
“Rydyn ni’n croesawu’r symudiad i ganolbwyntio ar ansawdd swyddi, a’r gweithredoedd clir i wella hyn, yn fawr.
“Mae’r cynllun hefyd yn amlygu beth arall y gellir ei wneud i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
“Mae blaenoriaethu cefnogaeth cyflogadwyedd i bobol ifanc, pobol ddi-waith, a phobol mewn swyddi â chyflogau isel yn cydnabod methiannau yn y farchnad lafur ar y funud, fel y mae’r ymrwymiad i ystyried deddfu ar y bwlch cyflog rhwng rhywiau, hiliau, a phobol ag anableddau.
“Mae’r agwedd flaengar hon yn cael ei chroesawu’n arbennig o ystyried yr heriau ehangach, gan gynnwys yr argyfwng costau byw a methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno eu haddewid yn eu maniffesto i dalu’r arian oedd yn dod o’r Undeb Ewropeaidd, sy’n golygu y bydd Cymru £1bn yn dlotach erbyn 2024.”
‘Hen bryd gweithredu’
Wrth ymateb i’r cynllun, dywed Paul Davies, llefarydd economi’r Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi’n “hen bryd i weinidogion Llafur weithredu a dechrau canolbwyntio ar yr economi, o ystyried eu bod nhw wedi anghofio amdani ers dau ddegawd”.
“O dan Lafur, mae gan Gymru’r cyfraddau busnes uchaf ym Mhrydain, y twf gwerth ychwanegol gros gwaethaf ers 1999 allan o holl genhedloedd y Deyrnas Unedig, ac mae hi’n cynhyrchu dim ond 3.4% o gyfoeth y Deyrnas Unedig er bod ganddi 5% o’r boblogaeth,” meddai.
“Mae gweithwyr Cymru’n cael eu cosbi hefyd, diolchi i fethiannau economaidd Llafur.
“Pan ddechreuodd datganoli, roedd pobol yng Nghymru a’r Alban yn cael tua’r un faint o gyflog yr wythnos, ond nawr mae gweithwyr yng Nghymru’n cael bron i £60 yn llai’r wythnos na phobol yr Alban.”
Ychwanega ei fod yn gobeithio y bydd y cynlluniau’r dwyn ffrwyth, yn hytrach na bod yn eiriau gwag.