Yr aelwydydd sydd ar yr incwm isaf yng Nghymru fydd yn derbyn y gyfran uchaf o gyllid yn yr ymateb i’r argyfwng costau byw, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae £330m wedi ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r cynlluniau Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf, y Gronfa Cymorth Dewisol, a’r taliad Costau Byw.
Fe fydd taliadau cymorth o hyd at £350 ar gael i’r aelwydydd sydd wedi eu taro waethaf gan y cynnydd mewn costau byw, ac fe fydd hefyd modd ymgeisio am arian ychwanegol drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol.
Yn sgil maint yr argyfwng, mae disgwyl y bydd tua 75% o aelwydydd yn cael eu cefnogi mewn rhyw ffordd.
Er hynny, bydd bron i ddwywaith yn fwy o arian yn mynd i aelwydydd sydd yn hanner isaf y dosbarthiad incwm.
‘Pecyn mwy blaengar’
Dywed Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru, mai’r rhai sydd ar yr incwm isaf fydd yn cael eu “heffeithio fwyaf”.
“Targedu’r cymorth fel hyn yw’r ffordd decaf o helpu pobol,” meddai.
“Mae’r argyfwng costau byw yn bellgyrhaeddol a bydd yn effeithio ar rai sydd heb ei chael yn anodd talu eu biliau o’r blaen.
“Felly roedd yn briodol darparu cymorth eang drwy’r taliadau costau byw gwerth £150.
“Mae’r cymorth ychwanegol drwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a’r Gronfa Cymorth Dewisol yn golygu bod hwn yn becyn mwy blaengar sy’n rhoi arian i’r rhai sydd wir ei angen.”
‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’
“Mae teuluoedd ac aelwydydd dan bwysau ac rydym am sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi,” meddai Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
“Rydym yn ymwybodol nad yw pawb sy’n gymwys i gael cymorth yn manteisio arno, ac mae ein dadansoddiad yn adlewyrchu’r ffaith hon.
“Mae ein hymgyrch ‘hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r gwahanol lwybrau cymorth ac rydym yn annog pawb sydd ei angen i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael.”
Roedd y pecyn costau byw eisoes wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fis diwethaf.
Heddiw (dydd Mawrth, 8 Mawrth), fe fydd Aelodau’r Senedd yn pleidleisio ar y Gyllideb Derfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.