Mae Llywodraeth Cymru wedi “colli cyfle euraidd” gyda’u Cyllideb, ac mae’r “gwariant ar brosiectau i adfywio’r Gymraeg fel pe baent yn drychinebus o brin o’r angen”, yn ôl Dyfodol i’r Iaith.

Mae Dyfodol i’r Iaith eisoes wedi galw am wariant cyfalaf o £200m i’w rannu rhwng pump o siroedd Cymru i ddatrys argyfwng tai preswyl ac ail gartrefi, ac maen nhw’n dweud nad yw cynigion presennol y Llywodraeth i ariannu Arfor ac i adeiladu tai cymdeithasol yn dod yn agos at yr angen.

Maen nhw hefyd wedi gofyn am roi blaenoriaeth i hyfforddi athrawon ac i ddysgu’r iaith i athrawon, ond yn dweud nad oes “arwydd fod y gyllideb newydd yn mynd i roi’r hwb cwbl angenrheidiol yn y maes yma”.

Yr “angen yn glir ers tro”

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae’r angen am drawsnewid y farchnad dai yn ein cymunedau mwy Cymraeg wedi bod yn glir ers tro, ac mae’r Llywodraeth wedi derbyn hyn,” meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

“Bydd y gyllideb hon yn anffodus yn parhau’r argyfwng.

“Mae’r Llywodraeth hefyd yn gwybod bod argyfwng ar ddigwydd o ran darparu staff â sgiliau iaith digonol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

“Cafodd IRALE yng Ngwlad y Basgiaid gyllideb o £25m y flwyddyn i ddysgu’r iaith i athrawon, a dysgwyd yr iaith i ryw 1,000 o athrawon y flwyddyn mewn cyrsiau amser llawn dros chwarter canrif.

“Os ydyn ni o ddifri am drawsnewid yr iaith yn ysgolion Cymru, mae’n rhaid cael rhaglen gyfatebol i un Gwlad y Basgiaid.”

Gwleidyddiaeth gydweithredol Cymru’n amddiffyn pobol rhag San Steffan sydd “allan o gysylltiad”

Mae’r gyllideb heddiw’n “arwydd pendant ac ymarferol o’n hymrwymiad i helpu’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas”, medd Plaid Cymru