Mae’r gyllideb heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 8) yn “arwydd pendant ac ymarferol o’n hymrwymiad i helpu’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas”, yn ôl Plaid Cymru.
Cyn y ddadl yn y Senedd ar y Gyllideb Derfynol, dywed Llŷr Gruffydd, llefarydd cyllid y blaid, fod yr addewid i ariannu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, i helpu teuluoedd sy’n cael trafferth gyda chostau byw cynyddol, “wrth wraidd y gyllideb”.
Er bod y gyllideb ehangach yn cwmpasu sbectrwm cyfan y llywodraeth, mae’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru’n cwmpasu 46 o feysydd polisi, sy’n cynnwys ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, creu gwasanaeth gofal cenedlaethol a chamau i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi.
Serch hynny, mae Llŷr Gruffydd yn mynnu y “gall llawer mwy gael ei wneud” pe na bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn San Steffan “allan o gysylltiad” ag anghenion Cymru, ac mae’n dweud y byddai Cymru ar ei hennill o ryw £3bn pe bai’r gyllideb yn cynyddu’n unol â maint economi’r Deyrnas Unedig ers 2010.
Ond mae’n dweud bod Cymru wedi cael ei gadael i “dalu’r bil” ar gyfer prosiectau costus fel HS2.
Bydd Cyllideb Derfynol 2022-23 yn cael ei thrafod yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 8).
‘Cyllideb sy’n dangos sut y gall cydweithio wneud gwahaniaeth gwirioneddol’
“Mae hon yn gyllideb sy’n dangos sut y gall cydweithio wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobol a chymunedau ym mhob rhan o’r wlad,” meddai Llŷr Gruffydd.
“O brydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd i ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn dwy flwydd oed, i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a llawer mwy, diolch i’r ymrwymiadau y mae Plaid Cymru wedi’u sicrhau fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, bydd y gyllideb hon yn creu Cymru sydd hyd yn oed yn wyrddach, hyd yn oed yn decach a hyd yn oed yn gryfach.
“Ond gadewch i ni beidio ag anghofio, er bod y setliad yn edrych yn eithaf cadarnhaol, y gwir yw ei fod yn fwy heriol nag y mae’n ymddangos.
“Er y bydd y flwyddyn gyntaf yn gweld cynnydd gwirioneddol yng nghyllidebau’r sector cyhoeddus, mae’n stori wahanol yn y blynyddoedd canlynol, pan fydd gwasanaethau cyhoeddus yn teimlo’r wasgfa mewn gwirionedd.
“Rhaid cofio, pe bai’r gyllideb wedi cynyddu yn unol â maint economi’r Deyrnas Unedig ers 2010, byddem wedi derbyn £3bn yn ychwanegol o gyllid.
“Ond i’r gwrthwyneb, ac yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, mae Cymru wedi gorfod talu tuag at brosiectau fel HS2, sy’n cael ei adeiladu’n gyfan gwbl y tu allan i Gymru ac a fydd yn rhoi economi Cymru dan anfantais.
“Dyna pam y bydd Plaid Cymru yn parhau i gyflwyno’r achos dros fwy o bwerau ariannol i Gymru fel bod polisi economaidd yn cael ei lywio gan yr hyn sydd orau i’n cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus, nid yr hyn sy’n gweithio orau i lywodraeth Dorïaidd sydd allan o gysylltiad, ac sy’n eistedd mewn Senedd a gwlad arall.”