Mae cynghorydd yng Ngwynedd wedi galw am fwy o gyfleoedd i ferched allu cymryd rhan mewn chwaraeon ar lefel broffesiynol.

Yng nghyfarfod llawn y Cyngor wythnos diwethaf, fe alwodd y Cynghorydd Judith Humphreys ar ei chyd-aelodau i ddangos cefnogaeth i’w galwad.

Mae hi’n teimlo bod y cyhoeddiad gan Undeb Rygbi Cymru i gynnig 12 cytundeb proffesiynol i ferched yn gam yn y cyfeiriad cywir.

Serch hynny, roedd hi’n teimlo bod yr anghyfartaledd yn parhau, yn enwedig wrth ystyried cyflogau, sy’n parhau i fod yn is na rhai’r dynion.

Yn 2018, roedd adroddiad gan fudiad ‘Women in Sport’ yn dangos mai 7% o’r holl chwaraeon sy’n cael ei ddarlledu yn y Deyrnas Unedig yw campau’r menywod.

Fe edrychodd yr adroddiad ar bum gwlad yn Ewrop i gyd, a doedd y canran darlledu yn yr un ohonyn nhw’n codi’n uwch na 10%.

Galwad

Mae’r Cynghorydd Judith Humphreys wedi ei hysbrydoli gan ferched amlwg yn y byd chwaraeon.

“Dw i wedi bod mewn cysylltiad ag un o hoelion wyth chwaraeon merched, Yr Athro Laura McAllister o Brifysgol Caerdydd, sydd â phrofiad uniongyrchol o’r maes, fel cyn-chwaraewraig pêl droed rhyngwladol dros Gymru,” meddai.

“Mae ei harbenigedd hi wedi bod yn agoriad llygad i mi.

“Yr un modd, mae clywed sylw Victoria Ward, prif weithredwraig Cymdeithas Chwaraeon Cymru am hanes chwaraewyr, fel blaenasgellwraig tîm rygbi merched Cymru, Alisha Butchers yn dorcalonnus.

“Teimlodd Alisha y rheidrwydd i droi at apêl codi arian cyhoeddus, Crowdfunder i dalu am lawdriniaeth wedi iddi gael ei hanafu ar y cae rygbi.

“Yn ôl Victoria Ward fyddan ni fyth yn gweld chwaraewr o’r tîm dynion, fel Alun Wyn Jones, yn gorfod troi at apêl Crowdfunder i dalu am lawdriniaeth wedi anaf!”

Y Cyng. Judith Humphreys

Yn ôl y Women’s Sports Foundation, dylai merched gael cyfle cyfartal mewn chwaraeon fel bod modd iddyn nhw dderbyn y buddion amlwg sy’n deillio o hynny.

Y buddion amlwg yw’r budd seicolegol o gymryd rhan mewn chwaraeon, y budd corfforol o gadw’r corff yn iach ac yn heini, a’r budd cymdeithasol sy’n dod o fod yn rhan o dîm ag unigolion o’ch cwmpas.

Safiad ‘dros gyfiawnder a chyfartaledd’

Fe wnaeth y cynghorwyr gefnogi’r cynnig yn unfrydol, sy’n golygu y bydd y cyngor nawr yn pwyso ar Lywodraethau Cymru a San Steffan yn ogystal â sefydliadau perthnasol eraill.

“Dwi’n mawr obeithio y bydd ein llywodraethau yn gwrando ar y cais o Wynedd,” meddai Judith Humphreys wedyn.

“Mae ein safiad yn un dros gyfiawnder a chyfartaledd – gwerthoedd sy’n greiddiol i ni fel cynghorwyr Plaid Cymru.

“Dwi’n ymfalchïo bod pawb ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi dangos eu cefnogaeth yn y Cyngor, a hynny er lles merched Cymru gyfan.”

‘Angen cael sylw cyfartal’

Un a gefnogodd yr alwad am well tegwch i ferched oedd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Cadeirydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd.

“Mae nifer o ardaloedd o fewn y byd chwaraeon lle mae tangyflawni a thangynrychiolaeth gan ferched,” meddai.

“Dwi’n llwyr gytuno â galwad Judith bod angen merched ar y byrddau chwaraeon ar bob lefel i gynrychioli merched eraill.

“Mae sicrhau bod yna gyfleusterau addas ar gyfer chwaraeon merched, yn arbennig felly ym maes pêl-droed a rygbi, yn hollbwysig hefyd.

“Mae hefyd angen cael sylw cyfartal â dynion ar y cyfryngau ac yn y wasg.

“Dim ond wedyn y gwelwn ni ddatblygu pan fo ffocws priodol i ferched ym myd chwaraeon ar y teledu, ar y radio, yn ein cylchgronau a’n papurau newydd ac yn bendant ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae genethod ifanc a merched yn gweld merched eraill yn cyflawni, yn cyrraedd yr uchelfannau ac yn llwyddo, yn rhoi’r hyder a’r weledigaeth iddyn hwythau fentro.”