Mae Menna Fitzpatrick yn dweud ei bod hi’n “hapus dros ben” ar ôl cipio’i hail fedal Baralympaidd yn Beijing.
Enillodd hi’r fedal efydd yn y ras gyfun (Super Combined) ar ôl ennill tir yn y slalom.
Daw hyn ar ôl iddi ennill y fedal arian yn y Super-G dros y penwythnos.
Mae hi’n dod o Macclesfield, ond mae ei mam yn Gymraes.
Mae ei chyfanswm eleni yn golygu ei bod hi bellach wedi ennill chwe medal Baralympaidd i gyd, sy’n fwy na’r un ddynes arall o wledydd Prydain yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf.
“Fe wnaethon ni adael tipyn o waith i’w wneud yn y slalom ac fe dalodd y cynllun ar ei ganfed, sef mynd yno a gwneud rhediad eithaf da, felly rydyn ni’n hapus dros ben,” meddai.
Menna Fitzpatrick wrth ei bodd gyda medal arian Baralympaidd
Roedd hi wedi gorfod goresgyn nifer o rwystrau cyn cystadlu yn Beijing