Mae Frank O’Farrell, y cyn-reolwr pêl-droed, wedi marw’n 94 oed.

Mae’n cael ei gofio’n bennaf fel rheolwr Manchester United a Chaerlŷr, ond treuliodd e rai misoedd wrth y llyw yn yr Adar Gleision rhwng Tachwedd 1973 ac Ebrill 1974, cyn cael ei benodi’n rheolwr ar dîm cenedlaethol Iran.

Fel chwaraewr, dechreuodd ei yrfa yn ninas Cork cyn symud yn ei flaen i West Ham a Preston, gan gynrychioli Gweriniaeth Iwerddon naw gwaith rhwng 1952 a 1959.

Dechreuodd ei yrfa’n rheolwr yn Weymouth yn 1961, gan dreulio tair blynedd wedyn yn Torquay.

Arweiniodd e tîm Caerlŷr i rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn 1969 yn ystod cyfnod o dair blynedd wrth y llyw, lle collon nhw yn erbyn Manchester City ac fe wnaethon nhw ostwng o’r Adran Gyntaf dair wythnos yn ddiweddarach ond fe godon nhw’n syth i fyny eto yn bencampwyr yr Ail Adran.

Aeth y Gwyddel i Old Trafford yn 1971, gan olynu Syr Matt Busby, ond 18 mis barodd e yn y swydd honno.

Roedd yn gyfnod cythryblus iddo, ac yntau wedi dadlau â’r seren George Best, ac er iddyn nhw gyrraedd brig y tabl am y tro cyntaf ers tair blynedd, gorffennodd Manchester United y tymor yn yr wythfed safle.

Cafodd ei ddiswyddo fis Rhagfyr 1972 pan oedd Manchester United yn drydydd o’r gwaelod yn y tabl, ac fe aeth yn ei flaen wedyn i reoli Caerdydd, Iran, clwb Al-Shaab yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, a dau gyfnod arall yn Torquay.