Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, daeth cadarnhad mai’r Farwnes Tanni Grey-Thompson yw cadeirydd newydd Chwaraeon Cymru, gan olynu Lawrence Conway, sy’n gadael y rôl ar ôl pum mlynedd.

Cynrychiolodd hi Gymru yn y byd para-athletau mewn pum Gemau Paralympaidd a thair Gemau’r Gymanwlad, gan ennill cyfanswm o 16 o fedalau gan gynnwys 11 aur.

Mae hi’n ddeilydd mwy na 35 record byd.

Bywyd a gyrfa

Cafodd Tanni Grey-Thompson ei geni yng Nghaerdydd, a dechreuodd rasio mewn cadair olwyn yn 12 oed.

Ymunodd â Chlwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr yn 15 oed, ac aeth yn ei blaen i astudio ym Mhrifysgol Loughborough, gan ennill gradd anrhydedd mewn Gwleidyddiaeth a Gweinyddiaeth Gymdeithasol.

Bu’n aelod annibynnol o Dŷ’r Arglwyddi ers 2010, ac mae ganddi brofiad fel athletwraig ac fel un fu’n gweithio fel swyddog datblygu a hyfforddwr llwybr doniau.

Ar hyn o bryd, mae hi’n gadeirydd ar UK Active, yn ymddiriedolwr Sefydliad Chwaraeon y Gymanwlad ac yn llysgennad UNICEF.

‘Cyfoeth o brofiad’

Yn ei rôl newydd, bydd hi’n atebol i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru am berfformiad Chwaraeon Cymru ac am gyflawni blaenoriaethau strategol.

“Rwy’n falch iawn o benodi Tanni i’r rôl hollbwysig hon ym maes chwaraeon yng Nghymru,” meddai’r Gweinidog Dawn Bowden.

“Mae’n dod â chyfoeth o brofiad a llawer o agweddau i’r rôl – nid yn unig y mae wedi ysbrydoli cenedl yn y maes cystadleuol, ond mae ganddi hefyd brofiadau llysgenhadol a strategol sylweddol ar lefel ryngwladol.

“Wrth inni ddathlu llwyddiannau menywod ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw, bydd ei phenodiad yn dod â gwerth enfawr i chwaraeon yng Nghymru.

“Mae wedi bod yn llais credadwy a darbwyllol i ieuenctid, i fenywod, ac i athletwyr anabl ar draws sawl maes o fywyd cyhoeddus, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi.

“Hoffwn ddiolch hefyd i Lawrence Conway am ei waith rhagorol fel Cadeirydd dros y pum mlynedd diwethaf wrth iddo adael y sefydliad mewn cyflwr da yn dilyn cyfnod heriol dros ben.”

Penodiad “yn cwblhau cylch”

Meddai y Farwnes Tanni Grey-Thompson:

“Rwyf wrth fy modd ac wedi fy nghyffroi gan y cyfle hwn i gefnogi pobl i fod yn egnïol ac i fyw bywydau iach,” meddai’r Farwnes Tanni Grey-Thompson.

“Credaf yn gryf, pe na bawn wedi cael fy ngeni a’m magu yng Nghymru, na fyddwn wedi profi’r cyfleoedd a gefais.

“Ar lefel bersonol, mae’r penodiad hwn yn cwblhau cylch.

“Chwaraeon Cymru (ac Elite Cymru) oedd y bwrdd cyntaf i mi ymuno ag ef tra oeddwn yn dal i fod yn athletwr oedd yn cystadlu – rhoddodd gipolwg go iawn i mi ar sut mae’r system chwaraeon yn gweithio o’r ddau safbwynt.

“Mae’n fraint wirioneddol cael cynnig y cyfle hwn.”

Bydd hi’n dechrau yn ei swydd ar Orffennaf 4.

‘Y sefydliad mewn lle da iawn’

“Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi arwain Chwaraeon Cymru dros y pum mlynedd diwethaf,” meddai Lawrence Conway.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r Bwrdd a holl staff Chwaraeon Cymru sydd wedi gweithio mor galed ac wedi bod mor gefnogol dros y cyfnod hwn.

“Credaf fod y sefydliad mewn lle da iawn ar hyn o bryd.

“Ond mae heriau o’n blaenau bob amser ac ni allaf feddwl am unrhyw un sy’n fwy addas i arwain y sefydliad wrth ymateb i’r heriau hynny na Tanni, ac mae ei hanes a’i hymrwymiad i chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar bob lefel yn siarad drostynt eu hunain.

“Dymunaf bob llwyddiant iddi.”