Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn arwain dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 8) yn galw ar yr holl bleidiau i gondemnio Rwsia am ymosod ar yr Wcráin ac i gefnogi NATO.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Lafur Cymru wrthod cyflwyno cynnig, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Byddan nhw’n galw ar y Senedd i:
- feirniadu Ffederasiwn Rwsia am ymosod ar yr Wcráin
- dangos undod â thrigolion yr Wcráin
- cydnabod dioddefaint pobol yr Wcráin o ganlyniad i golli bywydau a chael eu hanafu, gan dalu’r pris am y rhyfel
- cydnabod hawliau NATO ac amddiffyn eu haelodau, gan gefnogi llywodraeth yr Wcráin wrth iddyn nhw amddiffyn y wlad
- croesawu gweithredoedd Llywodraeth Cymru wrth gynnig cymorth dyngarol i’r rheiny mewn angen, a lloches i ffoaduriaid
Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi gallu dweud faint yn union o ffoaduriaid o’r Wcráin fydd yn dod i Gymru, na chwaith unrhyw gamau i helpu ffoaduriaid i gael addysg.
Galw am weithredu wedi’r rhethreg
Mewn erthygl yn y Sunday Times, fe fu Andrew RT Davies yn galw ar weinidogion Llafur i sicrhau eu bod nhw’n gweithredu yn ogystal â defnyddio rhethreg ynghylch y sefyllfa.
Mae e am weld bod digon o dai a gwasanaethau cyhoeddus eraill ar gael – fel arall, mae’n rhybuddio y bydd “perygl o lwyddo o ran geiriau cynnes” ond “methu â diwallu anghenion pobol fregus”.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, maen nhw wedi llwyddo i annog y Senedd i gyhwfan baner yr Wcráin ym Mae Caerdydd ac i oleuo’r adeilad yn lliwiau’r wlad.
Maen nhw hefyd wedi ysgrifennu at Ofcom yn galw am eglurder ynghylch sianel bropaganda Vladimir Putin, Russia Today, ac fe ddaeth y sianel oddi ar yr awyr yn fuan wedyn.
“Mae’r hyn mae cyfundrefn Putin yn ei wneud yn yr Wcráin ar hyn o bryd yn warth sy’n haeddu gael ei gondemnio yn y modd cryfaf posib,” meddai Samuel Kurtz, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro, fydd yn arwain y ddadl.
“Rydyn ni’n gweld yr hyn sydd, fwy na thebyg, yn gyfystyr â throseddau rhyfel, a’r cyfan oll yn enw rhyfel anghyfreithlon sy’n ymosod ar ddilysrwydd gwlad sofran, ddemocrataidd.
“Rhaid i ni i gyd ddangos undod a nerth â’n gilydd, ac yn enwedig yr Wcráin, i ddangos i Rwsia na fyddwn ni’n cilio yn wyneb ei bygythiadau ac na fydd Wcreiniaid dewr yn cael eu gadael ar ôl wrth iddyn nhw wynebu erchylltra rhyfel.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod ar flaen y gad wrth gefnogi ein cynghreiriaid Wcreinaidd, ac mae’n bwysig fod y Senedd yn cydweithio â’n cydweithwyr yn San Steffan, pobol Wcreinaidd ac aelodau NATO wrth iddyn nhw ymdrechu i oresgyn gwrthdaro yn Ewrop nad oedden ni’n credu y bydden ni fyth yn ei weld eto yn ystod ein hoes.”