Er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd, mae’n rhaid mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhyw, yn ôl darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 8), mae Dr Sammie Buzzard yn dweud bod merched yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan newid hinsawdd.

Yn sgil hynny, mae yna fwy o fwrn ar fenywod i weithredu neu ymateb, meddai.

Mae ystadegau diweddar gan y Cenhedloedd Unedig yn dangos bod rhan helaeth o bobol (80%) sy’n cael eu dadleoli yn sgil newid hinsawdd yn fenywod.

“O ystyried y sail honno’n unig, mae menywod am gael eu heffeithio’n waeth,” meddai Dr Sammie Buzzard wrth golwg360.

“Ond mewn llawer o lefydd, menywod yw’r rhai sy’n rhoi gofal, yn bennaf.

“Oni bai bod ganddyn nhw ffyrdd o gael dŵr yn eu cartrefi, maen nhw’n gorfod mynd allan i’w nôl felly maen nhw’n dipyn mwy agored i niwed os ydych chi’n cael digwyddiadau fel llifogydd neu sychder sydyn.

“Yn aml, y rôl mae menywod yn chwarae o fewn eu teuluoedd sy’n golygu mai nhw yw’r rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf.

“Oherwydd y rôl maen nhw’n ei chwarae yn gofalu, nhw yw’r rhai sy’n gorfod symud eu teuluoedd allan o ardaloedd peryglus.

Llifogydd ym Mhakistan yn 2010

“Roedd yna lifogydd mawr ym Mhacistan yn 2010, ac roedd hwnnw’n un o’r troeon cyntaf i fi ddarllen am hyn yn bod yn ffenomenon –  bod menywod yn cael eu heffeithio yn anghymesur.”

Roedd 85% o’r 20m o bobol a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd hwnnw yn fenywod neu’n blant, a 500,000 yn fenywod beichiog.

Wedi llifogydd Pacistan, fe wnaeth academyddion eraill ddadlau bod patrymau socioeconomaidd a moesau cymdeithasau mewn gwledydd datblygiedig yn golygu bod menywod yn fwy tebygol o ddioddef.

‘Mwy o fwrn ar ferched’

Mewn sawl achos, menywod yw’r rhai sy’n arwain y gweithredu yn erbyn newid hinsawdd hefyd, yn ôl Dr Sammie Buzzard.

“Yr un amlwg yw Greta Thunberg. Ond mae yna lot o fenywod eithriadol o dda o fewn cymunedau sy’n arwain o fewn y meysydd hyn,” meddai.

“Newid hinsawdd yw un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth, ac i’w frwydro mae’n rhaid i ni frwydro dros gydraddoldeb rhyw hefyd.

“Gan fod menywod yn cael eu heffeithio’n waeth gan newid hinsawdd, mae yna fwy o fwrn ar ferched i weithredu i atal y pethau hyn.

“Hefyd, mae’r beichiau cuddiedig hyn sydd ar fenywod, gan eu bod nhw’n ofalwyr yn bennaf, os oes gennych chi sefyllfa o argyfwng, boed yn lifogydd neu sychder, ac rydych chi angen symud yn sydyn, yna mae’n debygol mai’r menywod yw’r rhai sy’n gorfod meddwl ‘Be rydyn ni angen mynd efo ni? Sut ydw i am gefnogi’r plant? Sut ydw i am symud y plant?’”

O gymryd ongl hollol wahanol, mae anghydraddoldeb rhyw a’r bwlch mewn cyflogau yn ychwanegu at y broblem.

“Mae yna anghydraddoldeb rhyw o fewn lot o leoliadau gwaith, er enghraifft hyd yn oed o fewn gwyddoniaeth yr hinsawdd lle dw i’n gweithio, oherwydd bod yna fwlch cyflog rhwng y rhywiau,” meddai wedyn.

“Mae hynny’n broblem i fenywod sydd eisiau dod yn wyddonwyr hinsawdd, a thrio mynd i’r afael â newid hinsawdd ar yr ochr yna.”