I gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Merched, fe fydd Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal gweminar arbennig i ddathlu cyfraniad menywod i’r diwydiant amaethyddol.
Yn ystod y gweminar ‘Merched mewn amaethyddiaeth’, fe fydd nifer o fenywod sy’n gweithio yn y sector yn sôn am eu profiadau unigryw nhw o amaeth, ar lefel proffesiynol a phersonol.
Fe fyddan nhw hefyd yn trafod sut y gallan nhw leihau rhagfarn ymhellach a sicrhau bod merched yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu ymhob agwedd o’r maes.
Mae modd i unrhyw un gofrestru i’r digwyddiad rhithiol, sy’n cael ei gynnal ar Zoom am 10yb heddiw (dydd Mawrth, 8 Mawrth).
‘Procio’r meddwl’
Yn cadeirio’r cyfarfod mae Teleri Fielden, sy’n ffermio gwartheg a defaid yn Eryri.
“Rwy’n gobeithio y gall llawer ohonoch ymuno â ni ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod yn weminar sy’n procio’r meddwl ac yn ysbrydoli hyder,” meddai.
“Yn ystod y gweminar 90 munud, byddwn yn archwilio sut i rymuso merched ymhellach yn y diwydiant amaethyddol, mynd i’r afael â chydraddoldeb, stereoteipiau ac anffafriaeth, ac yn trafod sut mae gan amaethyddiaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig y potensial i arwain y ffordd wrth greu diwydiant cynaliadwy sy’n amryfal, teg a chynhwysol.”
‘Dathlu pa mor bell rydyn ni wedi dod’
Un arall o’r siaradwyr fydd Gwenno Davies, sy’n Uwch Weithredwr Yswiriant yng Ngwasanaethau Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru.
“Mae o’n gyfle i ddathlu merched mewn amaeth ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched,” meddai wrth golwg360.
“Byddwn ni’n dathlu pa mor bell rydyn ni wedi dod. Ac eto, wrth gwrs, mae yna lot mwy gallwn ni ei wneud i fod yn hollol gydradd efo dynion.
“Mae merched wedi profi dros y blynyddoedd eu bod nhw’n chwarae rôl bwysig o fewn amaeth.
“Efo ffermydd heddiw, mae yna gymaint o bwysau ar incwm fferm, ac mae merched wedi dangos eu bod nhw’n dda am arallgyfeirio a’r elfen o waith papur.
“Fasen nhw’n methu gwneud hebddon ni!”
Yn ystod y gweminar, fe fydd Gwenno Davies yn sôn am ei rôl hi fel asiant yswiriant yn mynd o gwmpas ffermydd, a’i phrofiadau personol hi o dyfu fyny o gwmpas amaeth.
Y siaradwyr eraill ar y dydd fydd Kate Miles, Rheolwr Elusen Sefydliad DPJ; Nicola Davies, Cadeirydd Cyngor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru; a Caryl Hughes, Is-Gadeirydd Rhanbarthol y Gymdeithas Ddefaid Cenedlaethol.
‘Rydyn ni wastad wedi cael ein gweld fel y wraig yn y tŷ’
Er bod llawer o ddiwydiannau yn anhafal o ran rhywedd, tybia Gwenno Davies fod amaeth yn arbennig o wael i ferched.
“Mae o dal yn faes reit stereoteipiol, gyda rhai’n meddwl bod merched ddim mor tough a chryf,” meddai.
“Rydyn ni wastad wedi cael ein gweld fel y wraig yn y tŷ, a’r dyn allan, ond mae eisiau newid hynny gymaint.
“Erbyn heddiw, mae yna gymaint o dechnoleg a pheiriannau sy’n gymorth, a dydy’r stereoteip ddim cweit yr un fath.
“Mae eisiau cael mwy o barch i ferched yn y maes, achos mae’n dal i gael ei weld fel gwaith i ddynion felly.
“Mae yna gymaint o ferched wedi gwneud gymaint o wahaniaeth o fewn y diwydiant, fel gwelwch chi os ymunwch chi efo’r seminar.”