Mae nyrsys endometriosis newydd wedi cael eu penodi ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru i wella gwasanaethau ar gyfer y cyflwr.

Mae’r cyflwr cronig yn effeithio ar un ym mhob deg menyw, a bydd y penodiadau yn helpu i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr a gwella diagnosis, meddai Llywodraeth Cymru.

Bydd y swyddi’n cael eu hariannu gan fuddsoddiad o £1m y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u cynlluniau ehangach i wella gwasanaethau iechyd menywod.

Gall endometriosis achosi poen difrifol, a dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ei bod hi wedi clywed straeon gofidus am fenywod yn cael y diagnosis anghywir ac yn peidio cael eu cymryd o ddifrif.

“Mae endometriosis yn effeithio ar un o bob deg menyw. Gall achosi poen difrifol ac effeithio’n ddirfawr ar ansawdd bywyd y fenyw sy’n dioddef o’r cyflwr,” meddai.

“Mae ein Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod yn gwneud gwaith hanfodol i helpu iechyd menywod, a bydd penodi nyrs endometriosis benodol ym mhob bwrdd iechyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth a gwella diagnosis a thriniaeth ar gyfer y cyflwr difrifol hwn, ledled Cymru.

“Rwy’n benderfynol y bydd menywod Cymru yn cael y gwasanaeth y maen nhw’n ei haeddu.

“Yn y gorffennol, nid yw gwasanaethau iechyd menywod wedi cael eu trin yn gyfartal, ac mae lleisiau menywod wedi cael eu hanwybyddu.

“Rwy’n benderfynol ein bod yn codi safonau holl wasanaethau iechyd menywod yng Nghymru, ac yn yr haf, byddaf yn cyhoeddi Datganiad Ansawdd yn nodi sut y byddwn yn cyflawni hyn.”

‘Gwella ansawdd bywyd’

Mae’r holl nyrsys yn eu swyddi bellach, a byddan nhw’n treulio amser gyda chleifion a chlinigwyr i wella gwasanaethau.

Byddan nhw hefyd yn gweithio gyda’i gilydd i rannu arferion da, a sicrhau bod y gwasanaeth yn gyson ar draws Cymru.

Mae’r Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2018, wedi datblygu gwefan benodol i gleifion a nyrsys hefyd.

Mae Endometriosis Cymru’n cynnwys straeon personol menywod ar draws Cymru, ac offeryn tracio symptomau a allai gael ei ddefnyddio gan gleifion a chlinigwyr i gyflymu’r broses o gael diagnosis a thriniaeth.

Yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth o endometriosis (Mawrth 3-9), fe fu Eluned Morgan yn cyfarfod â chwech o’r nyrsys newydd.

“Gall Endometriosis fod yn gyflwr cyfyngol iawn, ond gyda’r gofal iawn, gallwn wella ansawdd bywyd claf yn ddirfawr,” meddai Jo Kitt, Nyrs Endometriosis ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

“Rwy’n edrych ymlaen at gael gweithio gyda’r nyrsys newydd i gyd i rannu arferion gorau ar draws Cymru.”