Bydd gwobrau #LlaisAwards yn cael eu cynnal eto eleni er mwyn dathlu cyfraniad a llwyddiant merched busnes Cymru.
Mae’r gwobrau’n gyfle i ddathlu merched mewn ystod o wahanol sectorau a busnesau, o fwyd a diod i wallt a harddwch, ac o beirianneg i ffotograffiaeth, ac mae’r enwebiadau’n agor heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched (dydd Mawrth, Mawrth 8).
Er mwyn adlewyrchu’r newid ym myd busnes, mae yna gategorïau newydd eleni megis ‘Llwyddo’n Llawrydd’, ‘Busnes Newydd’, ‘Busnes Gwyrdd’, a ‘Merched Dan 25’.
‘Hwb enfawr’
Cafodd y gwobrau ymateb “anhygoel” y llynedd, meddai Llais Cymru, gyda 1,154 o enwebiadau dros 15 categori.
Un o’r rhai gafodd ei gwobrwyo llynedd oedd Katy Hayward o Felin Honeybees ar Ynys Môn, a dywedodd hi fod ennill y categori Bwyd a Diod “yn fraint”.
“Does dim digon o gydnabyddiaeth a sylw i ferched sy’n rhedeg busnesau, ac rydyn ni’n gweithio mor galed ac yn jyglo llawer,” meddai.
“Roedd yn golygu’r byd ac yn hwb enfawr i fi.”
Enillydd y categori Pencampwr y Gymraeg llynedd oedd Anwen Roberts o gwmni Draenog.
“Wnes i erioed ddychmygu byddwn i’n cael fy enwebu ac roedd ennill y categori yma yn anhygoel!” meddai.
“Roedd yn hwb mawr i fi ac yn gyfle i gwrdd â nifer o ferched busnes ar hyd a lled Cymru a chlywed am eu straeon anhygoel nhw. Ysbrydoliaeth a digwyddiad arbennig a chofiadwy.”
Rhoi sylw i ferched busnes
Cafodd Llais Cymru ei sefydlu ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2020 gan Heulwen Davies.
Mae’r busnes wedi’i leoli ym Machynlleth, ac yn darparu gwasanaeth marchnata a PR, trefnu a rheoli digwyddiadau, a chynhyrchu’r cyfryngau.
Dywed Heulwen Davies, Cyfarwyddwr Llais Cymru, bod dathlu, cefnogi ac ysbrydoli merched “yn hollbwysig” iddi fel person, perchennog busnes, a Mam i ferch ifanc.
“Roedd yr ymateb llynedd yn profi’r angen am ddigwyddiad o’r fath sy’n ffocysu ar gyfraniad gwerthfawr merched Cymru i bob math o fusnesau,” meddai.
“Does dim digon o sylw yn cael ei roi i ferched busnes, ac roeddwn i’n awyddus i newid hyn.
“Rydw i’n ddiolchgar tu hwnt bod Banc Datblygu Cymru yn awyddus i gefnogi a bod yn brif noddwr i’r eto eleni, maen nhw’n gwneud gwaith gwych i gefnogi merched busnes Cymru.”
‘Economi Gymreig gynhwysol’
“Rydym yn falch iawn o gefnogi Gwobrau Llais Cymru i Ferched Cymru Mewn Busnes,” meddai Beverley Downes, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu Banc Datblygu Cymru.
“Mae gweld modelau rôl benywaidd yn chwarae rhan weledol yn bwysig i oresgyn y rhwystrau sy’n bodoli i ferched ym myd busnes, ac i sicrhau economi Gymreig gynhwysol.
“Rydym yn rhan o’r grŵp ymgynghorol ‘Cefnogi Merched Entrepreneuriaid yng Nghymru’, ac rydym wedi mabwysiadau’r Dull Ymarfer Da, y ‘Good Practice Guide’ i gynyddu amrywiaeth o fewn y busnesau rydym yn buddsoddi ynddynt.
“Hyd yma rydym wedi cefnogi dros 2,000 o ferched sy’n rhan o berchnogaeth busnesau yng Nghymru”.
Eleni, bydd y gyflwynwraig Mirain Iwerydd, sydd yn llais cyfarwyddwr ar BBC Radio Cymru, yn cyd-gyflwyno’r gwobrau gyda Heulwen Davies, mewn noson wobrwyo ar Orffennaf 8.
Bydd y noson yn cynnwys adloniant byw, a bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr wedi’i chomisiynu gan Llais Cyrmu a’i chreu gan yr artist Hanna Harris o Gaerdydd.
Yr 16 categori ar gyfer y gwobrau eleni fydd:
- Llwyddo’n Llawrydd
- Manwerthwr Ar-lein
- Bwyd a Diod
- Defnydd o’r Gymraeg
- Iechyd, Ffitrwydd a Lles
- Gwallt a Harddwch
- Dylanwadwyr a Blogwyr
- Mam Mewn Busnes
- Peirianneg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Celf a Chrefft
- Ffotograffwyr a Dylunwyr
- Busnes Newydd (dan 12 mis)
- Busnes Gwyrdd
- Hamdden a Thwristiaeth
- Arwr y Stryd Fawr
- Dan 25
Mae’n bosib enwebu merched busnes ar wefan Llais Cymru, a bydd rhestr fer yn cael ei chyhoeddi ym mis Mehefin.