Mae menywod “yn cario baich y rhyfel yn yr Wcráin”, yn ôl Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 8), mae Dr Jenny Mathers wedi bod yn siarad â golwg360 am effaith anghymesur y gwrthdaro, sy’n gweld menywod yn gofalu am y teulu wrth i ddynion fynd i ymladd ac mewn rhai achosion, yn ymladd yn erbyn y Rwsiaid.
Daw ei sylwadau ar ôl i Dunja Mijatovic, Comisiynydd Hawliau Dynol Cyngor Ewrop, dalu teyrnged i fenywod Wcreinaidd sydd wedi cael eu gadael ar ôl yn y rhyfel i ofalu am eu teuluoedd.
“Mae menywod yn teimlo’n bersonol effaith ddinistriol y rhyfel ar eu teuluoedd a’u cymunedau,” meddai’r comisiynydd.
“Yng nghanol yr ymladd a’r trais sydd o’u cwmpas, mae menywod Wcreinaidd wedi bod yn gofalu am eu teuluoedd a’u cymdogion, gyda nifer ohonyn nhw wedi teithio pellter mawr i ddod â’u plant a phlant eu ffrindiau i ddiogelwch.
“Maen nhw hefyd yn parhau i weithio wrth gael eu bombardio gyda’r ffrwydro’n ddi-wahân wrth i feddygon, nyrsys a phobol broffesiynol eraill ddarparu gwasanaethau hanfodol i’w cymunedau.
“Mae ymgyrchwyr tros hawliau dynol menywod, newyddiadurwyr, ymgyrchwyr cymdeithas sifil a gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino er mwyn ailsefydlu heddwch ac amddiffyn gwerthoedd y mae Cyngor Ewrop yn eu harddel.
“Dw i’n eu llongyfarch ar eu dyfalbarhad, eu nerth a’u dewrder.”
‘Rhan fwya’r ffoaduriaid yn fenywod, plant a phobol hŷn’
Yn ôl Dr Jenny Mathers, mae rhan fwya’r ffoaduriaid yn y rhyfel yn yr Wcráin yn fenywod ac yn gofalu naill ai am blant, pobol oedrannus neu bobol ag anableddau.
“Yr hyn sy’n dueddol o ddigwydd yw eu bod nhw’n cael eu hanfon i ffwrdd o’r Wcráin a bod y dynion yn aros ar ôl i ymladd,” meddai.
“Mae hyn yn rhannol oherwydd gorfodaeth gan lywodraeth yr Wcráin, sydd wedi dweud bod rhaid i bob dyn rhwng 16 a 60 oed aros ar ôl i amddiffyn y wlad.
“Dyna un effaith fawr ar fenywod, sef mai nhw bellach sy’n gyfrifol, fwy neu lai, am gynnal bywyd y teulu, yn aml dramor neu mewn llochesi, gan geisio gofalu am blant, henoed a pherthnasau sydd ag anableddau. Nhw sy’n cario pob baich.”
Menywod yn ymladd neu’n cefnogi’r rhyfel
Ar y llaw arall, mae rhai menywod naill ai’n ymladd yn y rhyfel neu’n helpu’r dynion yn y rhyfel mewn nifer o ffyrdd.
Serch hynny, prin iawn maen nhw i’w gweld yn y newyddion, yn ôl Dr Jenny Mathers.
“Dw i ddim yn gweld llawer iawn ohonyn nhw yn y newyddion dw i’n ei ddilyn, ac eithrio mewn ffordd ddigon tocenistaidd, efallai rhyw lun o filwr benywaidd sydd wedi marw neu lluniau llawn delfryd ohonyn nhw cyn dechrau’r rhyfel.
“Felly mae yna ryw gyflwyniad eithaf arddulliedig ohonyn nhw.
“Ar y cyfan, pan welwch chi luniau o grwpiau o bobol yn gwneud coctêls Molotov, merched yw’r rhan fwyaf.
“Fe welais i fod deunydd fideo’n cael ei rannu yr wythnos ddiwethaf yn dangos pobol yn dod ynghyd i greu rhwydi cuddliw ar gyfer y milwyr Wcreinaidd, a menywod oedden nhw i gyd.
“Ro’n i’n edrych yn ofalus i weld a oeddwn i’n gallu gweld dynion, ond doeddwn i ddim, felly mae rolau cynorthwyol traddodiadol sy’n dueddol o fod wedi’u neilltuo bron yn gyfangwbl neu’n gyfangwbl gan fenywod ac mae hynny’n rywbeth welwch chi mewn rhyfeloedd.
“Fe welwch chi’r rhywiau’n cael eu rhannu’n ystrydebol mewn rhyfeloedd.”
Rôl menywod mewn rhyfeloedd wedi newid?
O ystyried rôl menywod yn yr Wcráin, felly, ydy’r rhod yn dechrau troi ac a ydyn ni’n dechrau gweld menywod yn ymgymryd â rolau llai traddodiadol a nodweddiadol fel ymladd?
“Ydyn, ond nid o reidrwydd mewn llinellau syth, am wn i,” meddai Dr Jenny Mathers.
“Un o’r pethau dw i’n gweithio arnyn nhw yw rhyfeloedd a byddinoedd ac yn draddodiadol, mae gennych chi fyddinoedd yn agor i fyny i fenywod pan fo angen mwy o bobol arnyn nhw a phan nad ydyn nhw’n gallu cael digon o ddynion i lenwi’r rolau sydd eu hangen arnyn nhw.
“Mae hyn yn dueddol o ddigwydd yn ystod y rhyfel, ond mae hefyd yn dueddol o fod yn rywbeth dros dro hefyd yn aml iawn, ac ar ddiwedd rhyfeloedd, mae menywod yn dueddol o gael camu i lawr cyn y dynion.
“Digwyddodd hynny yn y ddau ryfel byd. Hyd yn oed yn yr Undeb Sofietaidd, cawson nhw eu hanfon adref i gael plant.
“Mae’r agweddau hyn ar sail rhyw o ran beth ddylai menywod ei wneud mewn rhyfeloedd – ac ar adegau o heddwch – yn anodd iawn i ddianc rhagddyn nhw.
“Rydyn ni’n dueddol o orfod dysgu dro ar ôl tro fod menywod yn cymryd rhan mewn rhyfeloedd oherwydd, ar adegau o heddwch, maen nhw’n dueddol o fynd i gefn ein meddyliau ac yn symud i’r blaen eto pan fydd rhyfel yn digwydd a bod eu hangen nhw arnom i gymryd rhan yn llawn mewn rhyfeloedd.
“Yr hyn welson ni yn y Donbas dros wyth mlynedd o ryfel yn yr Wcráin yw fod proffil milwyr benywaidd wedi bod yn uwch o lawer, yn sicr.
“Rhan o hynny yw’r syniad yma fod angen mwy o bobol [i ymladd].”
Gwerthoedd NATO
Hanner arall y darlun, meddai Dr Jenny Mathers, yw fod yr Wcráin yn awyddus i gael eu gweld “yn cyd-fynd â gwerthoedd NATO”.
“Mae hynny’n cynnwys mwy o gydraddoldeb rhywiol,” meddai.
“Felly roedd hi’n ddiddorol rhan mor flaenllaw roedd Gweinidog Amddiffyn yr Wcráin yn ei rhoi i luniau o fenywod ar gyhoeddiadau sgleiniog mewn Saesneg, oedd yn amlwg yn targedu cynulleidfaoedd allanol, ac yn y blaen.
“Mae yna werth symbolaidd hefyd, yn ogystal â’r gallu i bwyntio at fenywod sydd ag arfau ac sy’n cario dryllau, a gallu dweud, “Edrychwch, mae hyd yn oed y menywod yn ymladd, mae’n rhaid bod y sefyllfa’n druenus os oes rhaid i ni arfogi’r menywod’.
“Mae’r Wcráin hefyd wedi ymrwymo i Agenda’r Cenhedloedd Unedig ar Fenywod, Heddwch a Diogelwch, a gafodd ei gyflwyno gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, a hwnnw wedi’i basio yn 2000.
“Mae gan yr Wcráin yr hyn sy’n cael ei alw’n Gynllun Gweithredu Cenedlaethol, sy’n golygu eu bod nhw wedi ymrwymo i wireddu rhai uchelgeisiau, ac un ohonyn nhw yw y dylai menywod fod yn rhan o bob cam o heddwch, trafod heddwch a’i gyflwyno.
“Wrth gwrs, dydy’r trafodaethau welson ni hyd yn hyn rhwng Rwsia a’r Wcráin ddim wedi cynnwys yr un fenyw ar y naill ochr na’r llall!
“Felly dydy menywod ddim wedi bod yn bresennol hyd yn hyn ymhlith rhengoedd y rhai sy’n trafod heddwch.”
Treisio a manteisio ar fenywod
Mae Elusennau DEC Cymru yn rhybuddio bod dadleoli torfol yn rhoi menywod mewn perygl o drais a chamdriniaeth, fod mwyafrif yr 1.7m o bobol sydd wedi ffoi o’r wlad yn fenywod a phlant, a bod disgwyl i 80,000 o fenywod roi genedigaeth yn y wlad yn ystod y tri mis nesaf.
Ac mae elfen fwy sinistr i rôl menywod yn y rhyfel hefyd, yn ôl Dr Jenny Mathers.
“Dw i wedi gweld sawl honiad fod milwyr Rwsiaidd yn treisio menywod Wcreinaidd mewn dinasoedd lle mae gan y Rwsiaid ryw fath o reolaeth,” meddai.
“Dydy hi ddim yn syndod yn yr ystyr fod hwn yn un o’r pethau olaf rydyn ni’n ei glywed mewn rhyfeloedd, ond mae’n un o’r pethau hynny sydd bron bob amser yn digwydd, fod menywod yn cael eu gweld fel rhyw fath o ysbail rhyfel, rhywbeth mae gan filwyr yr hawl i’w gymryd iddyn nhw eu hunain.
“Weithiau mae’n digwydd mewn ffordd fwy systematig fel y gwelson ni yn rhyfeloedd Iwgoslafia yn y 1990au. Droeon eraill, mae’n fwy ar hap ac yn unigol.
“Ond ydyn, rydyn ni’n sicr wedi gweld treisio, neu honiadau yn yr achos yma, yn y gwrthdaro hwn.”