Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, mae hanesydd blaenllaw wedi bod yn siarad â golwg360 am gefndir arddangosfa sy’n taflu goleuni ar hanes gweithwyr benywaidd y diwydiant glo yng Nghymru.

Ers mis Medi y llynedd, mae’r Arddangosfa Merched Tomen wedi bod yn agored i’r cyhoedd yn Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenau Gwent.

Mae’n debyg mai dyma’r tro cyntaf i’r hanes gael ei gyflwyno, gyda’r cofnodion yn edrych ar ferched a oedd yn gweithio ar yr wyneb a dan y ddaear, ac yn ddiweddarach yn y swyddfeydd a’r canolfannau meddygol.

‘Rydych chi’n meddwl am y pyllau glo fel diwydiant gan fwyaf i ddynion abl a gwyn’

Roedd Norena Shopland wedi bod yn casglu hanes merched yn trawswisgo, traws-weithio, a thraws-fyw fel dynion ar gyfer ei llyfr A History of Women in Men’s Clothes, pan ddaeth hi ar draws cofnodion o ferched yn gweithio o gwmpas y pyllau glo.

Yn adnabyddus fel y ‘Pit Brow Women’ – gan eu bod nhw’n gweithio ar wyneb pyllau – roedd nifer ohonyn nhw’n dewis gwisgo trowsusau, a oedd yn fwy ymarferol.

Bu dadleuon mawr ar y pryd ynglŷn â hynny, gyda nifer yn gweld trowsusau fel gwisg anfenywaidd.

“Dechreuais edrych ar gofnodion o ferched Cymreig a oedd yn gweithio yn y sectorau glofaol a gwaith haearn,” meddai Norena Shopland wrth golwg360.

“Fe siaradais i gyda Ceri Thompson o’r Pwll Mawr, ac fe oedd e eisoes wedi bod yn edrych ar wahanol feysydd achos ei fod yn pryderu am y diffyg amrywiaeth.

“Rydych chi’n meddwl am y pyllau glo fel diwydiant gan fwyaf i ddynion abl a gwyn, felly roedd Ceri yn gobeithio ehangu’r amrywiaeth yn yr hyn oedd yn cael ei arddangos i gynnwys gweithwyr anabl a lleiafrifol.

“Roedd hyn yn ffitio i mewn yn berffaith gyda beth oedd e’n ei wneud.

“Fe ddaeth hi i’r amlwg bod cymaint o wybodaeth ar gael am y merched, a chanlyniad hynny oedd yr arddangosfa hon.”

Y wisg wedi ei ail-chreu

Arddangosfa

Mae’r arddangosfa’n cynnwys cyfres o baneli gwybodaeth a lluniau, sy’n egluro’r hanes mewn manylder.

Yn ogystal, mae yna ailgread o’r wisg fyddai’r merched yn ei wisg wedi ei greu’n arbennig gan grefftwyr o Amgueddfa Werin Sain Ffagan yn ystod y cyfnod clo.

“Cyn 1842, roedd merched a phlant yn gweithio o dan y ddaear mewn amodau anodd iawn,” meddai Norena Shopland wedyn.

“Felly yn 1842, cafodd y gyfraith ei newid i atal merched a bechgyn o dan 11 oed i weithio o dan y ddaear.

“Wrth gwrs, roedden nhw’n parhau i weithio ar adegau a thorri’r gyfraith.”

‘Cymdeithas yn eu hystyried nhw’n anfoesol’

Yn ddiweddarach yn ystod yr 1860au, 70au ac 80au, roedd ymdrechion enfawr i geisio gwahardd merched rhag gweithio o gwbl.

Un o baneli’r arddangosfa

“Oherwydd eu bod nhw’n fudr ac wedi eu gorchuddio gyda llwch glo, roedd cymdeithas yn eu hystyried nhw’n anfoesol, wedi eu dadrywio, ac fel estroniaid bron,” meddai Norena Shopland.

“Drwy’r 1860au a 70au, rydych chi’n gweld pob math o ddeddfwriaethau’n codi yn ceisio gwahardd merched. Roedd hyd yn oed ymchwiliad i foesoldeb y merched hyn.

“Roedden nhw’n cael y bai am bopeth, ond fe wnaeth yr ymchwiliad ganfod nad oedden nhw’n anfoesol, a’u bod nhw’n bobol weddus a gweithgar a oedd fel pawb arall.

“Serch hynny, roedd rhai yn dal i’w gweld nhw fel pobol a ddylai gael eu stopio rhag gweithio, a chael eu gorchymyn i aros gartref i fod yn wragedd a mamau.

“Roedden nhw eisiau eu cadw nhw i lawr, ond dywedodd y merched hyn ‘Na!’, ac fe garion nhw ymlaen i weithio ar wyneb y pyllau glo hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif.

“Petaen nhw wedi colli eu swyddi bryd hynny, bydden nhw wedi gorfod byw ar gyflog un dyn, a byddai hynny wedi achosi problemau i’r holl gymdeithas.”

Ar ôl troad y ganrif, roedd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud gan beiriannau.

Wedi hynny, doedd merched fwy neu lai ddim ond yn gwneud gwaith cefnogol, fel nyrsio, gweini bwyd neu swyddi gweinyddol hyd at ddirywiad y diwydiant glo yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Amgueddfa Lofaol Cymru, Pwll Mawr

‘Hanes dynion yn dominyddu popeth’

Cafodd Norena Shopland syndod o weld faint o wybodaeth oedd ar gael, ac oherwydd hynny, bydd hi nawr yn ysgrifennu llyfr yn croniclo hanes merched yn y diwydiannau mwyngloddio.

“Mae’n fater o bwytho’r wybodaeth hon at ei gilydd fel cwilt a chasglu’r hanes newydd sbon hyn sydd ddim wir wedi cael ei adrodd o’r blaen,” meddai.

“Dw i’n credu bod hyn yn arwydd o ba mor bell y tu ôl i hanes dynion mae hanes merched, achos mae hanes dynion yn dominyddu popeth.

“Mae angen i ni wneud llawer mwy i ddod â hanes merched i’r blaen.”

Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn y Pwll Mawr ym Mlaenafon nes mis Medi, ond fe fydd yn cael ei chludo i Abertawe wedi hynny.