Mae Menna Fitzpatrick yn dweud ei bod hi wrth ei bodd ar ôl ennill medal arian yn y Super-G yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing.

Hi yw’r Baralympwraig fwyaf llwyddiannus erioed o Brydain yng ngemau’r gaeaf, ac mae hi bellach wedi ennill pump o fedalau Paralympaidd yn ystod ei gyrfa.

Bedair blynedd yn ôl, enillodd hi’r fedal aur yn y slalom, arian yn y ras gyfun fawr a’r slalom enfawr, yn ogystal â medal efydd yn y Super-G.

Bryd hynny, Jennifer Kehoe oedd ei thywysydd ond y tro hwn, roedd disgwyl i Katie Guest ei thywys cyn iddi orfod tynnu’n ôl ar ôl profi’n bositif am Covid-19 ar drothwy’r Gemau.

Roedd hynny’n golygu ei bod hi a Gary Smith yn gorfod magu perthynas waith gref mewn cyfnod byr iawn ac mae’n ymddangos eu bod nhw wedi gwneud hynny eisoes.

Ond bu’n brwydro am yn hirach na hynny hefyd, ar ôl torri ei choes ar ddechrau’r cyfnod clo yn 2020.

“Dw i’n teimlo’n hollol anhygoel!” meddai’r ferch o Macclesfield y mae ei mam yn dod o Gymru.

“Alla i ddim cweit credu’r peth, roedden ni jyst eisiau adeiladu ar y diwrnod cynt ac rydyn ni’n hapus iawn, iawn.

“Dw i mor hapus i fod yr athletwr gaeafol ParalympicsGB mwyaf llwyddiannus erioed.

“Nid dyna daethon ni allan i’w wneud, aethon ni allan i sgïo’n dda, felly mae cael dod allan â medal arian a theitl eithaf anhygoel hefyd yn golygu ein bod ni wrth ein boddau.”