Hynt a helynt chwaraewyr Cymru i’w clybiau’r penwythnos hwnMae’n ymddangos yn gynyddol annhebygol na fydd Cymru’n chwarae am le yng Nghwpan y Byd ym mis Mawrth wrth i’r sefyllfa druenus yn yr Wcráin waethygu. Does wybod pryd fydd gêm nesaf y tîm cenedlaethol felly ond all y chwaraewyr wneud dim ond ceisio gwneud argraff gyda’u clybiau.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Dechreuodd Leeds fywyd wedi Marcelo Bielsa gyda cholled yn erbyn Caerlŷr ddydd Sadwrn. Un gôl i ddim a oedd y sgôr yng ngêm gyntaf y rheolwr newydd, Jesse Marsch, gyda Dan James yn dechrau’r gêm a Tyler Roberts yn cael chwarter awr oddi ar y fainc. Ar y fainc yr oedd Danny Ward i’r gwrthwynebwyr.

Colli’n drwm a wnaeth Burnley wrth groesawu Chelsea i Turf Moor. Chwaraeodd Connor Roberts y gêm gyfan wrth i’w dîm golli o bedair i ddim ac ar y fainc yr oedd Wayne Hennessey.

Nid oedd Fin Stevens yng ngharfan Brentford yr wythnos hon ac nid yw tîm Ben Davies a Joe Rodon, Spurs, yn chwarae tan nos Lun.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Y Cymry ifanc a oedd sêr Caerdydd wrth iddynt ennill oddi cartref yn erbyn QPR ddydd Sadwrn. Wedi mynd ar ei hôl hi yn yr hanner cyntaf, daethant yn ôl i’w hennill hi gyda goliau ail hanner Isaak Davies a Rubin Colwill.

Ar ôl arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb yr wythnos hon, daeth Davies i’r cae fel eilydd yn lle Will Vaulks yn gynnar yn yr ail hanner a chrafodd ei ergyd dros y llinell i unioni pethau ugain munud o’r diwedd. A sicrhawyd y tri phwynt bum munud yn ddiweddarach gyda chic rydd wych Colwill. Roedd Eli King ar y fainc ond nid oedd Mark Harris yn y garfan.

Roedd buddugoliaeth dda i Abertawe hefyd, yn trechu Coventry o dair gôl i un yn Stadiwm Swansea.com. Chwaraeodd Ben Cabango yn yr amddiffyn ac roedd lle ar y fainc i’r Cymro ifanc deunaw oed, Cameron Congreve.

Mae Fulham un pwynt ar ddeg yn glir ar frig y tabl ar ôl curo Blackburn o ddwy gôl i ddim. Harry Wilson a sgoriodd y gyntaf a bu bron i Neco Williams sgorio gôl anhygoel hefyd ond tarodd y trawst gyda chynnig o’r llinell hanner! Ar y fainc yr oedd Ryan Hedges i Blackburn.

Huddersfield sydd yn ail ar ôl trechu Peterborough o dair i ddim nos Wener. Chwaraeodd Sorba Thomas y naw deg munud i’r buddugwyr a Dave Cornell a oedd y gôl-geidwad anffodus rhwng y pyst i Posh.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Chris Mepham wrth i Bournemouth golli yn erbyn Preston ond roedd Andrew Hughes a Ched Evans yn nhîm y gwrthwynebwyr.

Cododd Middlesbrough i’r chwech uchaf gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i un dros Luton. Ar ôl dechrau’r fuddugoliaeth gofiadwy dros Spurs yn y cwpan ganol wythnos, fe chwaraeodd Neil Taylor y gêm gyfan ddydd Sadwrn. Roedd Tom Lockyer yn nhîm Luton.

Ym mhen arall y tabl, roedd tri phwynt pwysig i Derby yn erbyn Barnsley. Symudodd tîm Tom Lawrence o fewn pum pwynt i’r safleoedd diogel gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim, gyda’r capten yn dychwelyd i’r tîm yn dilyn gwaharddiad. Chwaraeodd ran yn yr ail gôl hefyd, ei ergyd wreiddiol ef yn taro’r trawst cyn i Ravel Morrison rwydo o’r bêl rydd.

Un arall, fel Lawrence, sydd yn cael tymor da iawn yw Brennan Johnson ond cafodd noson i’w anghofio nos Wener, yn methu cic o’r smotyn yng ngêm gyfartal Nottingham Forest yn erbyn Sheffield United, a oedd â Rhys Norrington-Davies yn eu tîm.

Yn anarferol iawn, nid oedd yr un Cymro yn nhîm Stoke y penwythnos hwn, Joe Allen ar y fainc yn unig a’r gweddill ddim yn y garfan.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Jordan James yng ngêm Birmingham yn erbyn Bristol City hefyd.

 

*

 

Cynghreiriau is

Yn dilyn eu buddugoliaeth dros Gillingham yn yr Adran Gyntaf ddydd Sadwrn, talodd chwaraewyr Bolton deyrnged i’r diweddar Karen Jones, a fu farw’r wythnos hon yn dilyn cyfnod yn dioddef gyda Motor Neurone.

Yn naturiol, nid oedd ei mab, Gethin, yn y tîm y penwythnos hwn ond chwaraeodd dau Gymro arall, Declan John a Jordan Williams. Yn wir, John a sgoriodd yr ail gôl mewn buddugoliaeth gyfforddus o dair i ddim.

Roedd cefnwr chwith arall ymysg y goliau ddydd Sadwrn wrth i Ben Williams sgorio ei gôl gyntaf i Cheltenham yn erbyn Doncaster. Roedd honno yn un o bedair gan ei dîm ac roedd llechen lân i’w gydwladwr, Owen Evans, yn y gôl hefyd.

Sam Vokes a sgoriodd gôl agoriadol Wycombe wrth iddynt guro Crewe o dair gôl i un ond nid oedd Joe Jacobson yn y garfan. Roedd Dave Richards a Tom Lowery yn nhîm Crewe, gyda Lowery yn chwarae rhan yn eu hunig gôl hwy.

Mae Wes Burns yn parhau i fod ar dân i Ipswich. Ni wnaeth sgorio yn y fuddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn erbyn ei gyn glwb, Fleetwood, ond fe wnaeth greu’r gyntaf i Sam Morsy. Nid oedd Lee Evans yng ngharfan y Tractor Boys ond roedd Ellis Harrison yn nhîm Fleetwood.

Dechreuodd tri Chymro i Plymouth wrth iddynt guro Morcambe o ddwy gôl i ddim. Ryan Broom a greodd y gôl agoriadol i Conor Grant ac roedd James Wilson a Luke Jephcott yn y tîm hefyd.

Dechreuodd Louis Thompson wrth i Portsmouth gael buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Accrington, yn chwarae rhan helaeth o’r gêm cyn cael ei eilyddio gan Joe Morrell am y deunaw munud olaf. Nid oedd Kieron Freeman yn y garfan.

Roedd hi’n braf iawn gweld Nathan Broadhead yn dychwelyd i dîm Sunderland yn dilyn cyfnod hir allan gydag anaf. Llwyddodd i bara 70 munud o’r gêm ddi sgôr yn erbyn Charlton. Chwaraeodd Chris Gunter fel amddiffynnwr canol i Charlton ond ar y fainc yr oedd Adam Matthews.

Chwaraeodd Regan Poole y gêm gyfan wrth i Lincoln guro Sheffield Wednesday o dair gôl i un ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Liam Cullen.

Roedd Gwion Edwards yn nhîm Wigan ar gyfer y fuddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Wimbledon ond gwylio o’r fainc a wnaeth Matthew Smith wrth i’r MK Dons ennill yn Rotherham.

Casnewydd a aeth â hi yn y gêm ddarbi rhyngddynt a Bristol Rovers yn yr Ail Adran ddydd Sadwrn. Sgoriwyd unig gôl y gêm ar Rodney Parade gan James Waite, ergyd dda o bellter a gôl gyntaf y Cymro ifanc a arwyddodd o Benybont ym mis Ionawr. Roedd Aaron Lewis yn nhîm yr Alltudion hefyd a daeth Oli Cooper oddi ar y fainc. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Lewis Collins.

Dechreuodd brawd Lewis, Aaron Collins, i’r gwrthwynebwyr ac felly hefyd yr amddiffynnwr ifanc addawol, Luca Hoole.

Roedd buddugoliaeth o ddwy gôl i un i Swindon yn erbyn tîm newydd Mark Hughes, Bradford. Dechreuodd Brandon Cooper a Jonny Williams i Swindon, a Williams a greodd gôl Harry McKirdy a unionodd bethau yn yr hanner cyntaf.

Dechreuodd Emyr Huws fuddugoliaeth Colchester o gôl i ddim yn erbyn Port Vale ac roedd Tom King a Liam Shephard yn nhîm Salford ar gyfer eu gêm gyfartal hwy yn erbyn y tîm ar y brig, Forest Green.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Parhau y mae hunllef Albanaidd Aaron Ramsey. O leiaf yr oedd yn ôl yn y garfan ddydd Sadwrn yn dilyn cyfnod gydag anaf ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd y Cymro wrth i Rangers guro Aberdeen o gôl i ddim. Nid oedd Marley Watkins yng ngharfan y gwrthwynebwyr.

Christian Doidge a oedd yr unig Gymro i ddechrau yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sadwrn, yn chwarae’r awr gyntaf o gêm ddi sgôr Hibs yn erbyn St Johnstone.

Ar y fainc yr oedd Ben Woodburn i Hearts ac nid oedd Dylan Levitt ac Alex Samuel yng ngharfanau Dundee United a Ross County.

Gwylio o’r fainc a wnaeth Morgan Boyes hefyd wrth i Livingston golli o dair gôl i un yn erbyn Celtic ddydd Sul.

Daeth cyfnod Owain Fôn Williams yn yr Alban i ben yr wythnos hon wrth i’r gôl-geidwad a’r clwb gytuno i derfynu ei gytundeb yn gynnar am resymau teuluol.

Sgoriodd Rabbi Matondo unwaith eto ym mhrif adran Gwlad Belg ddydd Sadwrn. Y Cymro a rwydodd y gyntaf wrth i’w dîm, Cercle Brugge, gael gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Genk.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Gareth Bale unwaith eto wrth i Real Mdrid symud wyth pwynt yn glir ar frig La Liga gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Sociedad. Ac yn yr Almaen, nid oedd James Lawrence yng ngharfan St. Pauli ar gyfer eu gêm gyda Karlsruher.

Sassuolo a oedd gwrthwynebwyr Venezia yn Serie A ddydd Sul. Ni wnaeth Ethan Ampadu ddechrau’r gêm ond daeth i’r cae gydag ychydig llai na hanner awr yn weddill gyda’i dîm dair gôl i un ar ei hôl hi. Pedair i un a oedd y sgôr terfynol wrth i Venezia aros yn y tri isaf.