Joe Perry yw enillydd tlws Ray Reardon eleni, ar ôl curo’i gyd-Sais Judd Trump o naw ffrâm i bump yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd neithiwr (nos Sul, Mawrth 6).

Dyma’r tro cyntaf i Perry, sy’n 47 oed, ennill un o’r cystadlaethau ar gyfer y detholion yn y Deyrnas Unedig ac yntau wedi troi’n broffesiynol yn 1991.

Daeth ei unig fuddugoliaeth arall mewn cystadleuaeth i ddetholion ym Mhencampwriaeth y Chwaraewyr yng Ngwlad Thai yn 2015.

Roedden nhw’n gyfartal 4-4 ar ddiwedd sesiwn y prynhawn, ond sgoriodd Perry rediad o 108 a dau rediad arall dros 50 i fynd ar y blaen o 7-5 erbyn yr egwyl.

Cipiodd Perry y drydedd ffrâm ar ddeg o 62-44 i fynd o fewn un ffrâm i’r tlws, cyn sgorio 70 yn y ffrâm dyngedfennol.

Ond sgoriodd Trump 30 a bu’n rhaid i Perry ddianc cyn potio’r peli gwyrdd, brown a glas i gipio’r ornest.

‘Y lleoliad gorau ar y gylchdaith’

“Hwn yn sicr yw uchafbwynt fy ngyrfa o bell ffordd,” meddai Joe Perry wrth BBC Cymru ar ôl yr ornest.

“Ro’n i’n credu mewn gwirionedd ei bod hi’n dod i’r diwedd, a nawr mae gen i eiliad orau fy ngyrfa snwcer.

“Ei gwneud hi yn erbyn pencampwr gwych fel Judd yw’r eisin ar y gacen.”

Fe wnaeth e ddiolch i’w rieni yn y gynulleidfa am eu cefnogaeth drwy gydol ei yrfa.

“Maen nhw wedi fy nghefnogi er pan oeddwn i’n ddeg oed a hebddyn nhw, fyddwn i ddim wedi bod yn chwaraewr snwcer,” meddai.

“Dw i wedi ennill twrnament o’r blaen, ond doedd neb yno, a dw i’n gwybod eu bod nhw’n falch ohonof fi, ond mae hyn yn anhygoel.”

Talu teyrnged

Fe wnaeth Judd Trump dalu teyrnged i Joe Perry, yr ail chwaraewr hynaf i ennill twrnament detholion – yr hynaf yw Ray Reardon ei hun – ac mae’n golygu ei fod e wedi codi i fod ymhlith y 25 chwaraewr uchaf yn y byd ar y rhestr.

“Roedd hi’n gêm anodd,” meddai Trump.

“Joe chwaraeodd orau allan o’r ddau ohonon ni o’r dechrau i’r diwedd, felly chwarae teg iddo fe.

“Dw i eisiau ei longyfarch e oherwydd dyma’i fuddugoliaeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig ac mae e’n un o’r bois neisaf ar y daith, felly mae pawb yn hapus drosto fe.

“Ro’n i jyst yn brwydro drwy gydol y dydd i aros gyda fe, ac roedd sawl cyfle lle gwnes i fethu peli hawdd yn yr ornest.

“Fe wnes i roi popeth iddi, ond doedd hi ddim am fod.

“Fe wnaeth Joe fy rhoi i o dan bwysau o’r dechrau, ac fe wnaeth e botio peli hir gwych, sgorio’n fwy trwm ac roedd e’n potio peli hanfodol ar adegau hanfodol.”