Bydd uchderau’r Bannau Brycheiniog yn croesawu seiclwyr o bob cwr o’r byd ym mis Mehefin wrth iddyn nhw gystadlu yn Nhaith Merched Prydain eleni.
Dringfa galed i gopa ffordd y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin fydd diweddglo cymal olaf y ras eleni, sy’n dechrau ym Mharc Gwledig Pen-bre ger Llanelli ddydd Gwener, Mehefin 10.
Dyma’r eildro i gymal o’r ras – y ras fwyaf i ferched yn y Deyrnas Unedig – gael ei chynnal yn Sir Gaerfyrddin, er nad oes manylion llawn am y cwrs wedi eu cyhoeddi gan y trefnwyr eto.
Ar ben hynny, dyma’r eildro i gymal orffen gyda dringfa ond yn ôl y trefnwyr, fe fydd hon yn sylweddol anoddach na’r un yn Swydd Warwick yn 2019.
Mae’r ras eleni yn cychwyn yn Colchester yn Essex, ac mae disgwyl y bydd dros 100 o seiclwyr gorau’r byd yn cymryd rhan rhwng Mehefin 6-11.
Y bencampwraig bresennol yw Demi Vollering o’r Iseldiroedd o dîm SD Worx, ac mae’n edrych yn debyg y bydd enillydd y crys glas tywyll yn cael ei phenderfynu ar fryniau Cymru.
‘Lleoliad gorau ar gyfer beicio’
Dywed y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, sy’n Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar Gyngor Sir Caerfyrddin, fod y Cyngor yn gobeithio ysbrydoli pobol i fod yn heini drwy feicio, ac i gynyddu diddordeb yn y gamp.
“Mae cael ein dewis i gynnal cymal yn nhaith y merched unwaith eto yn dangos ein bod ni’n parhau i fod yn lleoliad gorau ar gyfer beicio yng Nghymru, gan ddenu beicwyr gorau’r byd mewn digwyddiadau mawr a ddarlledir ar y teledu,” meddai.
“Nid yn unig y gallwn gynnal digwyddiadau proffil uchel fel hyn ond gyda golygfeydd ysbrydoledig o’n hardaloedd gwledig, llefydd i gael tamaid blasus ar y ffordd a mannau i aros ynddynt sy’n addas i feicwyr, mae’r sir hefyd yn prysur ddod yn lle perffaith ar gyfer gwyliau beicio.
“Edrychwn ymlaen at groesawu Taith Merched Prydain unwaith eto a gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli ein cymuned i fynd ar eu beiciau.”
‘Ysbrydoli’
Mae Anne Adams-King, Prif Weithredwr Beicio Cymru, hefyd yn ymfalchïo bod Cymru yn cael chwarae rhan mewn cystadleuaeth flaenllaw unwaith eto.
“Mae’n wych bod Taith Merched Prydain yn dychwelyd i Gymru eto yn 2022,” meddai.
“Gall digwyddiadau proffil uchel ysbrydoli pobol i ddechrau beicio am hwyl ac i gystadlu, a gobeithiwn y bydd yn annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan.
“Byddwn yn edrych ymlaen at weld pawb ar ochr y ffordd ym mis Mehefin.”
Fe fydd manylion llawn y cwrs a’r cystadleuwyr yn cael eu datgelu yn y gwanwyn.