Mae Uwch Gynghrair Criced De Cymru wedi cyhoeddi pa rai o chwaraewyr Morgannwg fydd yn chwarae i’r clybiau y tymor hwn.

Bydd naw clwb yn croesawu dau chwaraewr yr un, tra bydd un clwb yn croesawu tri.

Abertawe fydd yn croesawu’r capten David Lloyd, ynghyd â chwaraewr amryddawn arall, Dan Douthwaite.

I Rydaman y bydd y troellwr Andrew Salter a’r batiwr llaw chwith Billy Root yn mynd, tra bydd y batiwr Joe Cooke a’r bowliwr cyflym Michael Hogan yn chwarae ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Clydach fydd yn croesawu’r bowlwyr cyflym Jamie McIlroy a Timm van der Gugten, tra bydd y bowliwr cyflym James Weighell a’r wicedwr wrth gefn Tom Cullen yn chwarae i Gastell-nedd.

Bydd y ddau chwaraewr o Went, y troellwr Callum Taylor a’r wicedwr ifanc Alex Horton, yn chwarae i Gasnewydd, tra bydd dau fowliwr cyflym lleol, James Harris a Lukas Carey, yn mynd i Bontarddulais.

Y batiwr Eddie Byrom a’r wicedwr a chyn-gapten Chris Cooke fydd yn mynd i Bort Talbot, tra bydd y bowliwr cyflym Albanaidd Ruaidhri Smith a’r bowliwr Andrew Gorvin yn chwarae i Sain Ffagan.

Caerdydd yw’r clwb fydd yn croesawu tri chwaraewr – a phob un o’r rheiny unwaith eto’n chwaraewyr lleol – sef y troellwr llaw chwith Prem Sisodiya, y capten undydd Kiran Carlson a’r Cymro Cymraeg ifanc Tegid Phillips.