Bydd Clwb Pêl-droed Abertawe’n apelio yn erbyn cerdyn coch Ryan Manning am drosedd ar y Cymro Harry Wilson yn y gêm yn erbyn Fulham yn Stadiwm Swansea.com (nos Fawrth, Mawrth 8).

Daw hyn ar ôl i Russell Martin, rheolwr yr Elyrch, feirniadu penderfyniad y dyfarnwr yn syth ar ôl y gêm.

Ond mae Marco Silva, rheolwr Fulham, yn mynnu bod y dyfarnwr wedi gwneud y penderfyniad cywir ar ôl gweld ôl y dacl ar goes Wilson.

Cael a chael oedd hi yn niwedd yr hanner cyntaf pan ddigwyddodd y drosedd, a’r sgôr yn gyfartal 0-0.

Ond sgoriodd yr ymwelwyr bum gôl yn yr ail hanner wrth i ddeg dyn Abertawe fethu ag ymdopi â’r pwysau, er mai camgymeriad oedd heb gael ei orfodi arweiniodd at y gôl gyntaf.

Sgoriodd Aleksander Mitrovic a Bobby Decordova-Reid gôl yr un, roedd dwy i’r Cymro arall Neco Williams a sgoriodd Ben Cabango gôl i’w rwyd ei hun.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod Fulham wedi ymestyn eu mantais ar frig y Bencampwriaeth i 14 o bwyntiau.

Ymateb Marco Silva

Adeg y drosedd, roedd Marco Silva yn teimlo bod Ryan Manning yn haeddu cerdyn melyn am y dacl.

Ond mae’n cyfaddef iddo newid ei feddwl ar ôl gweld coes Harry Wilson.

“Yn yr eiliad, os ydych chi’n gofyn i fi a oeddwn i’n meddwl ei fod e’n gerdyn coch, rhaid i fi ddweud na,” meddai.

“Ar ôl gweld coes Harry Wilson, dechreuais i feddwl yn wahanol.

“Pe baech chi’n gweld coes Harry Wilson, efallai y byddech chi’n meddwl yn wahanol hefyd.

“Welais i mo’r llun a gafodd ei ddarlledu.

“Yn yr eiliad gyntaf, ro’n i’n meddwl mai melyn fyddai e. Efallai nad yw’n gerdyn coch, ond 15 munud ynghynt, roedd cic o’r smotyn glir.

Er gwaetha’r canlyniad, cyfaddefodd e nad oedd ei dîm ar eu gorau.

Ymateb Russell Martin

Mae Ryan Manning yn wynebu gwaharddiad o bedair gêm am y drosedd, ond mae Russell Martin yn mynnu y bydd y clwb yn apelio yn erbyn y cerdyn coch, yr ail i Manning y tymor hwn.

Roedd e’n teimlo bod y dyfarnwr wedi gwneud y penderfyniad anghywir, a bod hynny wedi difetha’r gêm.

“Doedd dim dwy droed, a wnaeth e ddim taflu ei hun i mewn,” meddai.

“Roedd e’n ymestyn, ond mae’n anodd iawn pan fo chwaraewyr yn rhedeg ar eu cyflymdra mwyaf.

“Dydy e ddim yn ddigon clir i fi.

“Byddwn ni’n apelio oherwydd bydd e’n cael pedair gêm [o waharddiad] oherwydd mae e wedi cael ei anfon o’r cae o’r blaen.

“Dw i jyst mor siomedig fod y fath gêm dda wedi cael ei difetha.

“Fe wnaeth ein rheolaeth ar y gêm, yn enwedig yn ystod deng munud cynta’r ail hanner, ein lladd ni’n llwyr ac mae’n rhaid i ni ddysgu o hynny.”