Bydd Josh Navidi yn dychwelyd i ddechrau i Gymru yn y gêm yn erbyn Ffrainc nos Wener (Mawrth 11).

Dychwelodd i’r garfan yr wythnos hon yn dilyn anaf, a dyma fydd y tro cyntaf iddo chwarae dros Gymru ers iddo sgorio ei gais cyntaf dros ei wlad yn y gêm yn erbyn Ffrainc yn y Chwe Gwlad y llynedd.

Taulupe Faletau a Seb Davies fydd yn ymuno â Josh Navidi yn y rheng ôl yng Nghaerdydd.

Bydd Gareth Thomas yn dechrau am yr eildro dros ei wlad fel prop pen rhydd, gan ymuno â Ryan Elias a Tomas Francis yn y rheng flaen.

Does dim newid yn y cefn, gyda Josh Adams ac Alex Cuthbert ar yr esgyll, a Liam Williams fel cefnwr.

Bydd Jonathan Davies ac Owen Watkin yn chwarae yng nghanol cae. Dydy Nick Tomkins ddim ar gael ar ôl iddo gael ergyd i’w ben wrth chwarae i’r Saraseniaid dros y penwythnos.

Mae Louis Rees-Zammit yn dychwelyd i’r fainc, ynghyd â’r prop pen tynn Dillon Lewis.

‘Gwych’ cael Josh Navidi yn ôl

Dywed Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, fod Josh Navidi yn chwaraewr “ffanastig” a’i fod wedi chwarae’n dda dros Gymru yn y gorffennol.

“Mae e wedi dod yn ôl yn syth o’r blaen, felly mae cael 80 munud o gêm dros Gaerdydd yn ddigon iddo, rydyn ni’n credu, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei gael e’n ôl allan yna gyda’i brofiad,” meddai.

“Mae e’n chwaraewr da iawn, ac mae e wedi chwarae ar y lefel hon sawl gwaith felly bydd hynny’n wych i ni.

“Mae cael Seb [Davies] fel rhif chwech yn rhoi ychydig mwy o faint i ni.

“Dw i’n meddwl bod Gareth [Thomas] wedi cael argraff fawr i ni’r wythnos ddiwethaf, fel nifer o’r chwaraewyr eraill, felly mae e’n cael dechrau. Bydd Wyn yn gorffen y gêm y tro hwn, yn hytrach na dechrau.

“Mae unrhyw dîm sy’n gallu sgorio 40 pwynt yn erbyn Seland Newydd ac sydd newydd guro Iwerddon yn y gystadleuaeth hon am fod yn anodd eu curo,” meddai am Ffrainc.

“Mae ganddyn nhw nifer o chwaraewyr o safon fyd-eang, ac maen nhw’n dîm mawr fydd yn herio ni’n gorfforol ac yn y safleoedd gosod.

“Rydyn ni wedi cyffroi ein bod ni’n cael dychwelyd i Stadiwm y Principality’r wythnos hon.”

Olwyr

15. Liam Williams, 14. Alex Cuthbert, 13. Owen Watkin, 12. Jonathan Davies, 11. Josh Adams, 10. Dan Biggar (capten), 9. Tomos Williams

Blaenwyr

1. Gareth Thomas, 2. Ryan Elias, 3. Tomas Francis, 4. Will Rowlands, 5. Adam Beard, 6. Seb Davies, 7. Josh Navidi, 8. Taulupe Faletau

Eilyddion

16. Dewi Lake, 17. Wyn Jones, 18. Dillon Lewis, 19. Ross Moriarty, 20. Jac Morgan, 21. Kieran Hardy, 22. Gareth Anscombe, 23. Louis Rees-Zammit

  • Bydd y gic gyntaf am 8yh nos Wener, Mawrth 11.