Mae yna bryderon na fydd Stadiwm y Principality yn llawn ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd y gic gyntaf am 8yh nos Wener, Mawrth 11, ond fe allai’r stadiwm fod tua 10,000 yn brin o gyrraedd ei gapasiti o 74,500.

Er i obeithion Cymru o amddiffyn eu teitl Chwe Gwlad ddod i ben ar ôl colli yn erbyn Lloegr, mae Ffrainc yn parhau ar y trywydd iawn ar gyfer y tlws y Bencampwriaeth a’u Camp Lawn gyntaf ers 2010.

Nid ydynt wedi colli’r tymor hwn, gan drechu Seland Newydd, yr Ariannin, Iwerddon a’r Alban, cyn cyrraedd Caerdydd fel ffefrynnau.

“Mae ychydig o seddi ar ôl. Byddai’n wych gweld y seddi hynny’n cael eu llenwi,” meddai Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac.

“Mae’r ddwy ochr eisiau chwarae rygbi cyffrous.

“Yn sicr rydyn ni wedi cael cwpl o gemau gwych yn eu herbyn yn ddiweddar, felly rwy’n credu y bydd yn gêm wych.”

Josh Navidi yn dychwelyd i’r tîm

Bydd Josh Navidi yn dechrau i Gymru ar ôl dychwelyd i’r garfan yr wythnos hon yn dilyn anaf,

Dyma fydd y tro cyntaf iddo chwarae dros Gymru ers iddo sgorio ei gais cyntaf dros ei wlad yn y gêm yn erbyn Ffrainc yn y Chwe Gwlad y llynedd.

Taulupe Faletau a Seb Davies fydd yn ymuno â Josh Navidi yn y rheng ôl yng Nghaerdydd.

Bydd Gareth Thomas yn dechrau am yr eildro dros ei wlad fel prop pen rhydd, gan ymuno â Ryan Elias a Tomas Francis yn y rheng flaen.

Does dim newid yn y cefn, gyda Josh Adams ac Alex Cuthbert ar yr esgyll, a Liam Williams yn gefnwr.

Bydd Jonathan Davies ac Owen Watkin yn chwarae yng nghanol cae. Dydy Nick Tomkins ddim ar gael ar ôl iddo gael ergyd i’w ben wrth chwarae i’r Saraseniaid dros y penwythnos.

Mae Louis Rees-Zammit yn dychwelyd i’r fainc, ynghyd â’r prop pen tynn Dillon Lewis.