Fe fydd 1,000 o bobol ifanc yn cael y cyfle i ddathlu’r Wyddeleg ar-lein fel rhan o weithdai arbennig sy’n cael eu cynnal fel rhan o ŵyl Seachtain na Gaeilge le Energia.
Ymhlith y digwyddiadau mae weminar ar y Wyddeleg fel iaith fyw, gweithdai TikTok, radio a chodio a sgwrs gan Linda Keating, sydd wedi creu Foclach, fersiwn Wyddeleg o’r gêm boblogaidd Wordle, a honno’n cael ei darlledu ar YouTube.
Seachtain na Gaeilge le Energia yw’r ŵyl Wyddeleg fwyaf yn y byd, ac mae’n dathlu ei phen-blwydd yn 120 oed eleni.
Iaith a thechnoleg
“Mae’n bwysig iawn dathlu’r defnydd o’r iaith Wyddeleg mewn technoleg yn ystod Seachtain na Gaeilge le Energia,” meddai Paula Melvin, llywydd Conradh na Gaeilge.
“Mae’n wych cael Linda Keating yn siarad â myfyrwyr am Foclach ar Lá na Meán Sóisialta agus na Teicneolaíochta sydd yn digwydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched eleni.
“Mae’n bwysig dathlu rôl menywod yn natblygiad yr iaith, ac rydym yn freintiedig iawn o gael Linda yn siarad gyda ni heddiw.”
Yn ôl Deir Séaghan Ó Súilleabháin, LlysgennadSeachtain na Gaeilge le Energia, mae gan bobol ifanc “fwy o gyfleoedd nag erioed i ddefnyddio’u Gaeilge ar y cyfryngau cymdeithasol”.
“Dw i’n gweld hynny bob dydd,” meddai.
“Fel crëwr TikTok fy hun, mae’n bwysig i fi fy mod i’n hyrwyddo’r Wyddeleg mewn amryw o ffyrdd.
“Fy nod yw gwneud yr iaith Wyddeleg hyd yn oed yn fwy eang ei defnydd ar y cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg.”