Mae dwy ganolfan iaith newydd wedi eu hagor yn Sir Gaerfyrddin i roi cymorth i blant wrth ddysgu Cymraeg.
Daw hyn ar ôl i’r Cyngor Sir gymeradwyo’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg rhwng 2022 a 2032 yn gynharach eleni.
Wedi eu lleoli ar safle Ysgol Maes y Gwendraeth, fe fydd un o’r canolfannau ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd a’r llall ar gyfer disgyblion uwchradd.
Eu bwriad yw darparu addysg drochi ar gyfer dysgwyr ledled y sir, yn enwedig plant di-Gymraeg sydd wedi symud i’r sir ac sy’n newydd i addysg cyfrwng Cymraeg.
Cawson nhw eu hariannu gan Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg o bron i £1m gan Lywodraeth Cymru i sefydlu’r canolfannau.
‘Amgylchedd arloesol’
Fe fydd y canolfannau’n cynnig sesiynau gloywi iaith i ddisgyblion ar ddiwedd cyfnodau sylfaen, ac yn hwyluso’r pontio sy’n digwydd rhwng addysg gynradd ac uwchradd.
Bydd athrawon a staff cymorth yn cael buddion o’r ganolfan hefyd, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n trosi’r sgiliau iaith priodol yn yr ystafell ddosbarth.
Dywed y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant, fod y Cyngor yn awyddus i blant a phobol ifanc elwa o allu siarad Cymraeg.
“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi agor y ddwy ganolfan iaith hyn i gefnogi ein dysgwyr ysgol gynradd ac ysgol uwchradd ar eu taith ddwyieithog, a staff ein hysgolion i wella eu sgiliau Cymraeg y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth,” meddai.
“Y llety pwrpasol hwn, sydd wedi’i leoli yn Ysgol Maes y Gwendraeth, yw’r lle gall disgyblion o bob oed ddysgu Cymraeg mewn amgylchedd arloesol uwch-dechnoleg fodern.”
Gweledigaethau cenedlaethol
Mae’r canolfannau yn un o amcanion yr awdurdod lleol i fodloni gweledigaethau’r cynlluniau cenedlaethol ar gyfer addysg Gymraeg, sy’n cefnogi’r ymgyrch i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Rhai o weledigaethau’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yw:
- Mwy o blant meithrin (3 oed) yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- Mwy o blant y dosbarth derbyn (5 oed) yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- Mwy o blant yn gwella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o’u haddysg statudol i gam arall
- Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau yn y Gymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
- Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau mewn ysgolion
- Cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn unol â’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd
- Cynnydd yn y nifer o athrawon sy’n gallu addysgu’r Gymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
“Rydym newydd gyflwyno ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru,” meddai’r Cyng. Davies wedyn.
“Mae’r canolfannau newydd hyn yn cefnogi ein nod o gael pob plentyn yn hyderus ddwyieithog erbyn eu bod yn saith oed, neu’n sicr erbyn eu bod yn 11 oed, drwy ddefnyddio technegau addysg drochi yn y blynyddoedd cynnar.
“Rydym am i’n plant allu elwa o’r manteision niferus i fod yn ddwyieithog – o gyrhaeddiad addysgol i gyflogadwyedd ac iechyd.
“Nid yn unig y mae tystiolaeth o ganlyniadau gwell, ond mae pobol ddwyieithog yn dueddol o fod yn fwy creadigol a hyblyg, ac maent yn ei chael hi’n haws canolbwyntio ar amrywiaeth o dasgau a dysgu ieithoedd ychwanegol.
“Ar gyfartaledd, mae pobol ddwyieithog hefyd yn ennill 11% yn fwy, ac mae ymchwil yn dangos y gall dwyieithrwydd helpu i oedi dementia a symptomau eraill Alzheimers. Ac mae medru’r Gymraeg yn rhoi mynediad i agweddau helaeth ar ddiwylliant, hanes a hunaniaeth Cymru.”