Er mwyn i Gernyw barhau fod yn Gernyw, mae angen iddi allu rheoli ei marchnad dai ei hun a sicrhau nad yw pobol ifanc yn gorfod gadael yr ardal, yn ôl ymgyrchydd.
Wrth siarad â golwg360, dywed Loveday Jenkin, sy’n gynghorydd dros blaid Mebyon Kernow, fod angen i Gernyw allu gwneud penderfyniadau drosti ei hun sy’n gweithio iddi hi.
Wrth ddadlau dros hunanreolaeth i Gernyw, dywed nad yw nifer o’r cyfarwyddiadau sy’n dod o San Steffan yn “ffitio Cernyw”.
Mae nifer o broblemau sy’n gyfarwydd mewn rhannau o Gymru yn amlwg yng Nghernyw, gan gynnwys “nifer anferth” o ail dai a “phrinder anferth” o dai fforddiadwy i bobol leol, meddai Loveday Jenkin.
Byddai hunanreolaeth yn cryfhau sefyllfa hawliau ieithyddol hefyd, meddai, gan ychwanegu y dylai rhoi cyfleoedd i blant gael addysg Gernyweg fod yn hawl.
Bydd y rali Oll Yn-Dann Unn Baner, Gorymdaith Dros Gernyw, yn cael ei chynnal yn nhref Kammbronn yr wythnos nesaf, a Loveday Jenkin fydd un o’r siaradwyr.
‘Gwneud penderfyniadau sy’n gweithio i Gernyw yng Nghernyw’
“Dw i wedi bod ynghlwm â Mebyon Kernow ers amser reit hir, ac rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu dros hunanreolaeth i Gernyw ers amser hir,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n ymwneud â gallu gwneud y penderfyniadau sy’n gweithio i Gernyw yng Nghernyw.
“Dydy nifer o’r cyfarwyddiadau sy’n dod o San Steffan fel rhan o benderfyniad Seisnig ddim yn ffitio Cernyw, does gennym ni ddim cwricwlwm cenedlaethol Cernyweg, does gennym ni ddim cefnogaeth gan y Llywodraeth i’n hiaith, does yna ni ddim dealltwriaeth o natur wledig yr ardal a’r gwahaniaethau economaidd.
“Mae’r patrwm o bobol yn byw ar wasgar yn golygu nad yw lot o bethau fel codi’r gwastad yn gweithio i Gernyw oherwydd mae’n seiliedig ar economeg ‘treiddio i lawr’.”
Prinder tai fforddiadwy
Does gan Gernyw, yn wahanol i Gymru, ddim pwerau i newid premiymau treth cyngor i drio addasu’r farchnad, ac mae Loveday Jenkin yn dweud bod angen iddyn nhw allu rheoli’r farchnad dai.
“Dw i’n meddwl mai’r her fwyaf yw na fydd pobol ifanc yn gallu byw yma mwyach,” meddai.
“Nid ar yr arfordir yn unig y mae tai yn cael eu prynu fel ail dai, neu i’w rhentu; mae’n digwydd dros Gernyw.
“Ddoe, roeddwn i’n delio â rhywun oedd yn cael eu troi allan o’r tŷ maen nhw wedi byw ynddo ers 14 mlynedd oherwydd bod y perchennog wedi penderfynu gwerthu.
“Rydyn ni angen rheoli’r farchnad dai. Yn ddelfrydol, fysan ni’n hoffi marchnad dai leol, fel yn Jersey, lle na fyddai pobol mewn rhai rhannau’n gallu prynu tŷ oni bai bod ganddyn nhw reswm lleol dros brynu yno, eu bod nhw’n gweithio yno, neu’n byw yno.
“Mae hi wedi dod i’r pwynt hwnnw.”
Hawliau’r Gernyweg
Yn ôl Loveday Jenkin, mae pobol yno yn dod yn gynyddol ymwybodol o ddiwylliant, treftadaeth, iaith a hunaniaeth Cernyw.
“Roedd hi’n Ddydd San Peran ddydd Sadwrn, ac roedd y rhan fwyaf o’r trefi a’r pentrefi’n gwneud rhywbeth ar gyfer y diwrnod,” meddai.
“Mae lot o bobol yn dysgu’r iaith ar-lein nawr, ac mae yna fwy o alw nag ellir delio ag e efo’r fframwaith sy’n bodoli ar y funud ar gyfer addysg oedolion.
“Felly mae yna lot o alw yna, ond mae’n ddibynnol iawn ar wirfoddolwyr i wneud y gwaith, mae arian ar gyfer addysg yn fach iawn, mae yna ychydig bach iawn ar gyfer gweithio mewn ysgolion cynradd, ond dim ond bob hyn a hyn.
“Does yna ddim arian i gael yr iaith ym mhob ysgol, does yna ddim arian i gael unrhyw unedau dwyieithog. Felly os yw teuluoedd yn magu plant yn siarad Cernyweg, mae’n rhaid iddyn nhw wneud hynny ar ben eu hunain.”
Mae Loveday Jenkin yn medru’r Gernyweg ei hun, ac wedi pasio’r iaith i’w phlant, ond drwy ddosbarthiadau y dysgodd hi’r iaith.
“Cafodd fy mhlant eu magu’n ddwyieithog, ond maen nhw wedi’i chael hi’n anodd gan nad oes yna gefnogaeth mewn ysgolion. Rydych chi’n gallu dysgu ‘Cernyweg Babi’, fel y byddai fy mab yn ei ddweud, ond unwaith rydych chi’n mynd i addysg does yna ddim cyfle i ddysgu drwy’r Gernyweg.
“Dylai hynny fod yn hawl i ni. Os ydy plant a’u teuluoedd eisiau gallu dysgu drwy’r Gernyweg, yna dylen nhw allu gwneud hynny, ond does yna ddim cyfleuster i wneud hynny ar y funud.
“Mae yna ysgol feithrin Gernyweg yn cael ei sefydlu eto, ond heb unrhyw gymorth statudol mae hi’n anodd iawn i gadw’r pethau yma i fynd.”
‘Digon yw digon’
Y peth pwysig, meddai, yw cofio mai pobol ifanc sy’n dweud mai digon yw digon, ac sy’n dweud bod angen newid, a bod angen i Gernyw barhau a bodoli.
“Ond fy ofn i yw y bydd rhaid i lot o’r bobol ifanc hyn symud o Gernyw, a’u bod nhw wedi gorfod gwneud, er mwyn cael swyddi a chael rhywle i fyw,” meddai.
“Dydyn ni ddim eisiau mynd yn ôl i’r 70au, pan oedd brain drain llwyr.
“Roedd Cernyw yn dechrau dod yn lle oedd yn cael ei adnabod mwy fel lle y gellid creu swyddi uchel, diolch i gefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd, ond mae ein cyflogau dal mor isel, a byddan nhw’n mynd yn is eto heb unrhyw gefnogaeth i gefnogi’r economi cyflogau uwch.
“Rydyn ni wedi cyrraedd yr unfed awr ar ddeg dw i’n meddwl, lle rydyn ni angen dweud, er mwyn i Gernyw barhau i fod yn Gernyw, rydyn ni angen atal llwyth o dai sydd ddim yn fforddiadwy i bobol leol rhag cael eu hadeiladu ac rydyn ni angen canolbwyntio ar sicrhau bod pobol ifanc yn gallu aros yng Nghernyw.”