Mae ymgyrchydd o Yes Kernow, mudiad sydd o blaid annibyniaeth i Gernyw, wedi dweud wrth golwg360 mai “celwydd llwyr ac ulw” yw’r syniad na all Cernyw lywodraethu ei hun.

Dywed Mike Tremayne hefyd fod ymgyrch Yes Cymru wedi bod yn “ysbrydoliaeth” i’r mudiad, gan ychwanegu bod yno debygolrwydd mawr rhwng y materion sy’n effeithio’r ddwy wlad.

Dechreuodd gynnal protestiadau gyda Yes Kernow ddechrau’r flwyddyn ar ôl cyfnod o ymgyrchu ar-lein.

“Bron yn union yr un fath”

“Mae’r materion sy’n effeithio ar Gernyw bron yn union yr un fath â’r rhai sy’n effeithio ar Gymru,” eglura mewn sgwrs gyda golwg360.

“Rydym yn wynebu dylanwad economi sy’n wahanol iawn i’n heconomi ni, yn bennaf de-ddwyrain Lloegr.

“Rydym wedi bod yn bwrw ymlaen â phethau’n ddigon distaw lawr yn fan hyn am nifer o flynyddoedd rŵan ar ein lefelau ein hunain o gyflogau, ein lefel ni o beth sy’n fforddiadwy a’n lefel ni o brisiau tai ac yn y blaen.

“Fodd bynnag, rydan ni bellach yn wynebu mewnlifiad enfawr o bobol sydd â mwy o arian nag allwn ni byth ddychmygu ei ennill.

“Ac o ganlyniad mae prisiau tai a chartrefi yn codi tu hwnt i’n gafael, rydan ni wedi colli ein llais democrataidd ac mae cymunedau cyfan yn cael eu colli.”

“Celwydd llwyr ac ulw”

“Mae’r nonsens yma nad ydym yn gallu neu’n haeddu cael mwy o ddylanwad ar y ffordd mae pethau’n cael rhedeg yma wedi cael ei ddatgelu am yr hyn ydi o – celwydd llwyr ac ulw,” meddai Mike Tremayne wedyn.

“Mae Cernyw – ac mae’r un peth yn wir am Gymru – yn hollol abl i redeg ei materion ei hun.

“Na, tydan ni ddim yr un mor fawr â Chymru, mae Cymru yn wlad fawr o’i chymharu â Chernyw.

“Ond mae Cernyw dal yn fwy na llawer o wledydd hunanlywodraethol y byd… rydan ni’n fwy na Gwlad yr Ia sydd â’r safonau byw uchaf yn Ewrop, rydan ni fwy na Malta, rydan ni’r un maint a Luxenbourg sy’n wlad sofren o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r nonsens yma nad ydym yn gallu rhedeg materion ein hunain yn sarhad arnom ni fel pobol, ac mae mwy a mwy ohonom yn dechrau teimlo felly.

“Rydan ni’n gallu rhedeg materion ein hunain, does dim dwywaith amdani.”

Ond sut aeth Mike ac eraill ati i sefydlu’r mudiad a gweddnewid yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gernyw?

“Roedd Yes Kernow yn arfer bodoli ar y cyfryngau cymdeithasol yn unig, ond yn gynharach eleni daeth rhai ohonom at ein gilydd a phenderfynu ‘reit, beth am i ni wneud hyn yn iawn a’i symud i’r stryd’ a dyna’n union yr ydym ni wedi dechrau ei wneud yn ein ffordd fach ni.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i ddyn busnes Cernyweg lleol sydd wedi rhoi digon o arian i ni brynu baneri, ac mae ef yn parhau i roi arian i ni – mae ef am aros yn anhysbys, ac mae hynny yn iawn.”

Ysbrydoliaeth gan Yes Cymru

“Yes Cymru yw ein hysbrydoliaeth i fod yn onest gyda chi,” meddai Mike.

“Rydym wedi edrych ar yr hyn y maen nhw’n ei wneud, ac mae lot ohonom yn eu dilyn nhw ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae’n rhaid i ni ddechrau mynd â’r brotest allan yna, a dyna rydan ni wedi dechrau ei wneud.

“Roedd ein protest ddiwethaf mewn lle o’r enw Chiverton Roundabout, lle mae tair lôn yn dod at ei gilydd felly mae hi wastad yn brysur yno o ran ceir.”

Fe wnaeth y mudiad gynnal ei brotest gyntaf yn yr un lleoliad yn ystod y Gynhadledd G7 ym mis Mehefin.

“Cawsom ein hanrhydeddu gan ymgyrchydd Cymreig o Yes Cymru yn ymuno â ni yn y brotest,” meddai.

“Ymunodd â ni gyda’i faner Gymreig a baneri Celtaidd, roedden ni wir wedi ein hanrhydeddu.

“Wedi hynny fe aethom i dafarn lleol, fe wnaethom brynu cwpl o beintiau o gwrw lleol iddo a chawsom lot fawr o gyngor ganddo am yr hyn sy’n digwydd draw yng Nghymru.

“Yna fe wnaethom orffen y dydd gydag ychydig o ganu.

“Alla i ddim pwysleisio hyn ormod, rydan ni wir yn edmygu’r Cymry, y nhw yw ein hysbrydoliaeth.”

Fe wnaeth ymgyrchydd o Yes Cymru ymuno â phrotest ddiweddaraf Yes Kernow

“Colli ein hunaniaeth”

Mae Mike Tremayne yn disgrifio’r broblem tai haf sy’n bodoli yng Nghernyw ac yng Nghymru fel math o “wladychiaeth economaidd” ac yn rhybuddio bod pobol Cernyw yn “colli ein hunaniaeth”.

“Mae pobol o Loegr yn dod i Gernyw ac yn newid enwau ein tai ni i’r Saesneg yn ymosod ar ein treftadaeth ni.

“Mae’n fath o wladychiaeth economaidd mewn ffordd.

“Ac mae lot o bobol yn edrych ar Gernyw ac yn dweud ‘o mae’n rhaid ei fod yn ardal Geidwadol iawn’, oherwydd mae gennym chwe Aelod Seneddol Ceidwadol.

“Ond does dim yn bellach o’r gwirionedd!

“Yn syml, mae gennym ni weinyddiaeth Geidwadol yma yng Nghernyw ar sail canran fach iawn o’n hetholwyr.

“Y gwir amdani yw bod pobol Cernyw wedi colli fydd mewn gwleidyddiaeth – mae gen ti fwy a mwy ohonyn nhw sy’n cael eu hanwybyddu’n llwyr.

“Maen nhw wedi rhoi’r ffidil yn y to, wedi cael llond bol o’r system ddemocrataidd.

“Y broblem arall ydi ein bod ni’n ymwybodol o nifer fawr o berchnogion ail dai sy’n dod a’u pleidlais yma i Gernyw ac yn pleidleisio dros y Ceidwadwyr.

“Ac mae hyn yn achosi’r problemau rydyn ni’n siarad amdanynt.

“Mae pobol Cernyweg yn colli ein hunaniaeth, a dyna pam yr ydym ni’n ceisio’r gorau i ymgyrchu ac i frwydro.”

“Cadw’r ffydd”

Mae Mike yn dweud y bydd y mudiad yn “cadw’r ffydd” ac yn parhau i gynnal protestiadau rheolaidd, ac mae ganddo air o gyngor i Gymru.

“Ein huchelgais yw bod fel Cymru, dyna ein huchelgais,” meddai.

“Ar hyn dw i’n ddweud wrth Gymru yw, ewch amdani! Sicrhewch fwy o bwerau ac yna ewch amdani, yn union fel mae’r Albanwyr yn gweithio amdano.

“Oherwydd dyw’r un wlad sydd erioed wedi gadael yr Undeb, neu’r ymerodraeth erioed wedi edrych yn ôl, fe wnaethon nhw gerdded i ffwrdd gydag urddas a balchder.”

O ran Yes Kernow, byddan nhw’n cynnal eu protest nesaf ar 8 Awst.

“Byddwn ni allan ar yr wythfed o Orffennaf pan mae’r cyfnod gwyliau ar ei anterth,” meddai Mike.

“Mae gennym grŵp brwd o wirfoddolwyr fydd yn protestio mewn gwahanol fannau twristiaid poblogaidd.

“Yn sicr, byddwn ni’n cadw’r ffydd.”