Mae dros ddau draean (70%) o barafeddygon yng Nghymru wedi ofni am eu diogelwch neu deimlo dan fygythiad wrth weithio, yn ôl canfyddiadau arolwg newydd.

70% oedd y ganran ar gyfer parafeddygon ledled y Deyrnas Unedig hefyd, yn ôl yr ymchwil gan Goleg y Parafeddygon.

Roedd yr arolwg, a wnaeth holi parafeddygon ledled y Deyrnas Unedig, yn dangos fod bron eu hanner (49%) wedi dioddef camdriniaeth gorfforol wrth weithio.

Dywedodd 80% eu bod nhw wedi cael eu cam-drin yn eiriol yn y gwaith.

Mae Coleg y Parafeddygon wedi rhybuddio fod y gamdriniaeth tuag at barafeddygon yn cael effaith uniongyrchol ar eu hiechyd a’u lleisiant – gyda’u swyddi’n cael effaith waeth, ers dechrau’r pandemig, ar iechyd meddwl 69% o’r rhai atebodd yr arolwg.

“Rydyn ni wedi bod yn ymwybodol ers peth amser am y gamdriniaeth gorfforol a geiriol mae parafeddygon yn ei dioddef a’r effaith mae’n ei chael ar eu hiechyd a’u llesiant – ond dyma’r tro cyntaf mae arolwg ar raddfa eang wedi datgelu hyd a lled y broblem,” meddai Tracy Nicholls, Prif Weithredwr Coleg y Parafeddygon.

“Mae’n gwbl wallgof i feddwl fod cymaint o barafeddygon wedi cael eu cam-drin wrth gyflawni eu dyletswyddau, wrth fynd tu hwnt pob disgwyliad i helpu pobol pan maen nhw ar eu mwyaf bregus, ac yn aml mewn amgylchiadau heriol iawn.

“Mae’n ymddangos fod y gamdriniaeth wedi cynyddu’n ystod y pandemig pan mae parafeddygon yn agored i risg personol uwch yn barod, sy’n peri pryder.

“Digon yw digon! Mae’n amser i ni sefyll yn erbyn hyn a dod o hyd i ffyrdd newydd i weithio gyda’n gilydd i atal camdriniaeth rhag digwydd, yn ogystal â mynnu dim goddefgarwch pan mae’n digwydd.”

“Gwarth”

Dywedodd 89% o’r parafeddygon fod eu hiechyd meddwl wedi dioddef yn sgil eu swydd.

“Un o’r elfennau sy’n peri’r pryder mwyaf yw bod parafeddygon yn dal i barhau, er gwaethaf cael eu gwthio i’r pen, mewn rhai achosion,” ychwanegodd Tracy Nicholls.

“Mae’n warth fod parafeddygon yn gorfod gweithio dan y fath amodau.

“Mae’r materion hyn yn haeddu llawer mwy o sylw, a byddwn i’n gweithio’n galed i greu newid.

“Gyda chanlyniadau’r arolwg hon, rydyn ni mewn sefyllfa dda i wthio ymlaen gyda’n gilydd er mwyn gwneud gwahaniaeth yn y maes, sy’n hanfodol ar gyfer diogelu parafeddygon a’r cleifion y maen nhw’n trio eu helpu.”