Dydy plant sydd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth ddim yn derbyn y gefnogaeth maen nhw ei hangen oherwydd dadleuon ynghylch ariannu, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Dylai sawl gwasanaeth gwahanol gydweithio er mwyn cynnig cefnogaeth glir i helpu plant ag anghenion iechyd cymhleth, ond dydy hynny ddim yn digwydd yn effeithiol yn aml, meddai’r Comisiynydd Sally Holland.

Mae’r gwahanol wasanaethau yn cynnwys rhai iechyd corfforol, iechyd meddwl, gofal cymdeithasol a darpariaeth addysg.

Mae dadleuon rhwng gwasanaethau am ariannu a darpariaeth yn golygu bod oedi wrth i blant a’u teuluoedd dderbyn cymorth, ac mae hynny’n cael “effaith ofnadwy” ar blant, meddai, gan ychwanegu y gallai’r dadlau olygu nad yw rhai plant yn derbyn yr help hwnnw o gwbl hyd yn oed.

‘Effaith ofnadwy’

Dywed y Comisiynydd fod angen arweiniad llawer cryfach gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Byrddau Prynwriaeth Rhanbarthol, a gafodd eu creu i wella’r ffordd mae gwasanaethau gwahanol yn cydweithio, yn gwybod sut i gydlynu gofal cyflym a theg.

Rhaid i hynny gael ei gefnogi gyda fframwaith ariannu glir, yn ôl Sally Holland.

Mae’r alwad yn rhan o adroddiad newydd gan y Comisiynydd Plant sy’n dweud bod amseroedd aros ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol, megis ar gyfer plant yr amheuir bod ganddyn nhw Awtistiaeth, ADHD, a chyflyrau tebyg, yn “eithriadol o hir”.

“Mae hwn yn fater enfawr sy’n cael effaith ofnadwy ar rhai o’n plant mwyaf bregus – plant sydd angen help sbesiffig iawn yn gyflym,” meddai’r Athro Sally Holland.

“Dwi’n gwybod fod cyllidebau yn dynn ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus, ac felly dwi’n deall bod elfen o geisio diogelu’r cyllidebau hynny, ond os nad ydyn ni’n gweld gwelliannau clir iawn yn y maes yma, bydd plant yn parhau i golli mas ar y gofal maen nhw angen.

“Pan rydw i’n cwrdd gyda’r saith Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol, sy’n gyfrifol am gydlynu’r gofal yma yn eu hardaloedd nhw, maen nhw i gyd yn gydnabod bod hyn yn broblem, a bod angen newid.

“Mae’n cymryd rhy hir i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i gytuno ar ariannu, sy’n gadael plant a theuluoedd heb y gefnogaeth maen nhw angen.

“Mae’n anghyffredin i weld darparwyr gwasanaeth rhanbarthol yn edrych am gyfarwyddyd mwy cryf gan y Llywodraeth ar ariannu, ond dyna beth maen nhw eisiau – maen nhw’n gwybod ar hyn o bryd bod teuluoedd yn cael eu methu.”

‘Angen datrysiad ariannol’

Mae’r materion yn adroddiad y Comisiynydd Plant yn cyfeirio at blant sy’n derbyn gofal gartref gyda’u deuluoedd, mewn gofal preswyl a’r rhai sy’n derbyn gofal diwedd oes.

Yn ôl yr adroddiad, mae’r rhan fwyaf o letyau diogel ar gyfer plant a phobol ifanc sydd ag anghenion yn cynnig cefnogaeth tymor byr yn unig.

Mae angen mwy o ddarpariaeth hirdymor, meddai Sally Holland.

Dywed Andy Goldsmith, prif weithredwr yr hosbis plant Tŷ Gobaith, eu bod nhw’n croesawu’r adroddiad a’u bod nhw’n gyfarwydd â’r materion ynddo.

“Rydyn ni’n aml yn gweld asiantaethau yn dadlau am ofal y plant mwyaf bregus, yn gwrthod cyfrifoldeb ariannol am eu gofal, sy’n gadael teuluoedd heb gefnogaeth,” meddai.

“Mae Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan yn gweithio i wella ein hymgysylltiad gyda Byrddau Partneriaeth Ranbarthol Cymru, ac rydyn ni’n gobeithio bydd mwy o weithio ac ariannu integredig yn helpu plant gydag anghenion cymhleth iechyd a meddygol, a’u teuluoedd.

“Rydyn ni angen datrysiad ariannol cynaliadwy o ran gofal seibiant, ac yr unig ffordd i wneud hyn yw trwy ddull rhanbarthol, integredig, sy’n gwerthfawrogi gofal iechyd a chymdeithasol yn gyfartal.”

‘Ystyried gwelliannau’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae ein canllawiau yn glir y dylai anghenion plentyn fod yn hollbwysig ac ni ddylai unrhyw drafodaethau ynghylch yr agweddau ariannol ar ddarparu gofal oedi cyn darparu’r gofal hwnnw.

“Rydym yn ystyried pa welliannau pellach y gellir eu gwneud.”