Mae un o swyddogion Cyngor Sir Conwy wedi cyfaddef eu bod nhw’n “wirioneddol awchus” i gyflawni cynllun morlyn llanw gwerth £7bn.

Byddai’r morlyn yn ymestyn 19-milltir ar hyd arfordir gogledd Cymru, gan ddechrau yn Llandudno a gorffen ym Mhrestatyn, gyda thyrbinau yn newid cyfeiriad y llanw i greu ynni gwyrdd.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth yr awdurdod lleol cyfagos, Cyngor Sir Ddinbych, gytuno yn eu cyfarfod llawn i gefnogi’r cynlluniau.

Bellach, mae Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi addo £120m yr un i helpu i gyflawni’r morlyn llanw, a allai greu 5,000 o swyddi adeiladu yn lleol.

Roedd y llywodraeth ym Mae Caerdydd wedi annog awdurdodau lleol Cymreig i weithio gyda’r sector breifat i ddyfeisio cynlluniau ynni gwyrdd.

Bydd y ddau gyngor nawr yn chwilio am ffyrdd o ariannu’r cynllun, ynghyd â buddsoddiad gan gwmnïau preifat.

‘Cyfeiriad cywir’

Ddoe (dydd Llun, Mawrth 7), fe wnaeth pwyllgor trosolwg a chraffu ar gyllid Cyngor Sir Conwy gyfarfod i drafod y diweddaraf am Fargen Twf Gogledd Cymru.

Yn ystod y cyfarfod hwnnw, dywedodd Jane Richardson, cyfarwyddwr strategol y Cyngor, ei bod hi’n credu y byddai’r fargen twf yn sbarduno’r cynlluniau.

“Rwy’n meddwl mai’r hyn yr ydyn ni ei eisiau yw i’r llywodraeth a’r sector weld ein bod yn wirioneddol awchus am forlyn llanw yng Ngogledd Cymru,” meddai.

“A gorau po fwyaf o gymeradwyaethau ffurfiol y gallwn eu rhoi, gennym ni ac o Sir Ddinbych.

“Roeddwn i’n falch iawn o weld yr hyn yr oedd Sir Ddinbych wedi’i ddweud. Mae’r cyfan yn mynd â ni i’r cyfeiriad cywir.

“Dw i wedi gweld newid mawr ers i fi ymuno [â’r cyngor] – roedd morlyn llanw yn teimlo fel breuddwyd bell, a doedd neb yn ei chymryd o ddifrif.

“Nawr mae wedi’i restru’n swyddogol yn y fframwaith economaidd rhanbarthol fel un o’r cyfleoedd mwyaf a phwysicaf yng ngogledd Cymru.”

Cafodd ei ddatgelu yn y cyfarfod bod grŵp pwyso yn Sir Conwy wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd.

Bydd llythyr yn cael ei anfon yn fuan at Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru, i weld a oes modd cynnal astudiaeth ddichonoldeb o’r cynlluniau.