Gallai cynlluniau gwerth £7 biliwn ar gyfer morlyn llanw ger arfordir y gogledd drawsnewid yr economi a hybu twristiaeth yn lleol, yn ôl un cynghorydd.
Mae’r cynllun yn cynnwys adeiladu morglawdd 19 milltir o hyd gyda thyrbinau i newid cyfeiriad y llanw, ac mae ganddo botensial i greu 5,000 o swyddi adeiladu.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych bleidleisio o blaid cynnig i gefnogi’r cynlluniau ar gyfer y morlyn llanw yn swyddogol.
Cafodd y cynnig hwnnw ei gyflwyno gan y Cynghorydd Brian Jones ar ran y Blaid Geidwadol, yn dilyn galwad gan Lywodraeth Cymru am fuddsoddiad gan y sector breifat mewn cynlluniau ynni gwyrdd.
Bydd y cyngor nawr yn apelio am gyllid gan lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru.
‘Byddai buddion ariannol mawr’
Er bod y cynlluniau yn y camau cychwynnol, roedd y Cynghorydd Brian Jones yn gweld cyffro yn siambr y cyngor drostyn nhw.
“Mae’n beth cyffrous i Sir Ddinbych yn fy marn i,” meddai.
“Mae’r ffaith ei fod wedi ei gymeradwyo’n unfrydol yn awgrymu bod ychydig o gyffro gan aelodau eraill ar draws y sbectrwm gwleidyddol.
“Pe bai prosiect mawr o’r maint hwn yn mynd yn ei flaen, y manteision mawr i Sir Ddinbych yw y byddai buddion ariannol mawr drwy symiau [o arian] cymunedol.
“Rydych yn sôn am symiau sylweddol o arian, nid yn unig ar gyfer sir Ddinbych ond hefyd ar gyfer Conwy oherwydd byddai Conwy yn bartner pe bai morlyn llanw yn cael ei adeiladu yng Ngogledd Cymru.
“Byddai manteision drwy swyddi adeiladu, ac yna’r budd twristiaeth hirdymor.
“Beth fydden ni’n ei wneud o bosib yw agor canolfannau croeso, un wedi’i lleoli yng Nghonwy yn ôl pob tebyg, un yn Sir Ddinbych.
“Hefyd, fe fyddai rhywfaint o fynediad i’r wal, sy’n ymestyn allan i’r môr am ddwy filltir. Byddai gan bobol ddiddordeb mewn gweld rhywbeth felly.”
Effeithiau amgylcheddol
Datgelodd y Cynghorydd Jones ei fod wedi cael sicrhad y byddai’r tyrbinau yn gyfeillgar i’r amgylchedd, yn enwedig o ran eu heffaith ar fywyd morol.
“Mae’r agwedd amgylcheddol yn gwbl allweddol i’r cyfan,” meddai.
“Yn y byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw, fyddai hyn ddim yn cael sylw pe bai’r [effaith ar yr amgylchedd] hynny ddim yn cael ei leihau.
“Felly mae yna hyder na fydd hyn achosi unrhyw effaith negyddol, yn enwedig i fywyd y môr.”
Ychwanegodd y gallai’r effaith economaidd ar yr ardal fod yn enfawr.
“Pan rydych chi’n dechrau sôn am 5,000 o swyddi adeiladu, byddai’n amlwg yn gadarnhaol i’r sefyllfa economaidd,” meddai’r Cynghorydd Jones wedyn.
“Yn amlwg, byddai cyfleoedd gwaith hirdymor hefyd. Byddai’n trawsnewid y sefyllfa economaidd yn Sir Ddinbych, ac ar yr arfordir.
“Byddai’r cyfleoedd yn enfawr.”