Dylid cael gwared ar holl gyfreithiau Covid Cymru erbyn diwedd mis Mawrth, meddai’r Ceidwadwyr Cymraeg.

Bydd Llywodraeth Cymru’n adolygu’r cyfyngiadau sydd dal mewn grym heddiw (Mawrth 3), ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylai’r pwyslais fod ar hunangyfrifoldeb yn hytrach nag ar gyfreithiau.

Wrth gyhoeddi’r newidiadau diwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru y gallai’r gofyniad cyfreithiol i wisgo mygydau ddod i ben erbyn diwedd mis Mawrth.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod wyth o bobol wedi marw yng Nghymru gyda Covid-19 yn y 24 awr hyd at fore dydd Mawrth (1 Mawrth).

Dywedodd Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod wrth ei fodd “bod y rhifau’n dal i ddangos bod Covid yn dod yn rym llai peryglus yn ein gwlad, a bod gwytnwch y brechlyn yn parhau’n gryf”.

“O ystyried y cynnydd, dyw hi ond yn iawn fod y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn rhoi cynllun i ni ar gyfer byw gyda’r feirws o’r diwedd, a dyddiad ar gyfer cael gwared ar yr holl gyfreithiau Covid,” meddai.

“Mae Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi cael gwared ar yr holl gyfyngiadau yn barod, ac mae’r Alban wedi rhoi amserlen ar gyfer gwneud hynny, gan olygu bod Cymru Lafur yn eithriad, yn dal ein rhyddid yn ôl heb reswm da.

“Gan fod gweinidogion wedi methu ag egluro pryd y byddan ni’n cael ein rhyddid yn ôl yn llawn – na pham nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eto – rydyn ni’n galw am gael gwared ar yr holl gyfyngiadau, gan gynnwys hunanynysu gorfodol, erbyn diwedd y mis, gan roi’r pwyslais ar hunangyfrifoldeb er mwyn cadw ein cymdeithas yn iach.

“Rydyn ni hefyd yn disgwyl i’r cynllun ar gyfer byw gyda Covid gael ei gyflwyno yn y Senedd gyntaf – nid yn y wasg, fel sydd wedi digwydd yn San Steffan a Holyrood.

“Rydyn ni newydd basio dwy flynedd ers i’r achos cyntaf o Covid gael ei gofnodi yng Nghymru. Diolch i’r rhaglen frechu, gwaith caled gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd, a chryfder pobol Prydain, rydyn ni mewn lle llawer gwell erbyn hyn.

“Mae hi’n amser byw gyda’r feirws.”

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Ar hyn o bryd, mae hi’n rheidrwydd i bobol wisgo mygydau mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mewn lleoliadau meddygol.

Ers dydd Llun (28 Chwefror) does dim rhaid gwisgo gorchudd wyneb yn yr ystafell ddosbarth, ond mae’n rhaid parhau i’w gwisgo mewn ardaloedd lle mae pobol yn ymgasglu mewn ysgolion uwchradd.

Mae canllawiau swyddogol yn parhau i bwysleisio gwisgo gorchudd wyneb fel ffordd o gadw pobol yn ddiogel, ond ers dechrau’r wythnos nid oes rhaid gwisgo mygydau mewn sinemâu, theatrau, canolfannau cymunedol, amgueddfeydd na champfeydd chwaith.

Mae hi dal yn ofynnol i bobol sy’n profi’n bositif am Covid-19 hunanynysu am bum niwrnod yng Nghymru.

Os yw’r profion dal yn bositif ar ddiwrnod pump a chwech, mae’n rhaid i bobol hunanynysu nes eu bod nhw’n cael dau brawf negatif ddau ddiwrnod ar ôl ei gilydd neu hyd at ddiwrnod deg, pa bynnag un yw’r cynharaf.

Rheidrwydd i wisgo mygydau mewn lleoliadau dan do yn dod i ben

Y lleoliadau hyn yn cynnwys sinemâu, theatrau, canolfannau cymunedol, amgueddfeydd a champfeydd, ond nid ar drafnidiaeth cyhoeddus na llefydd meddygol