Mae’r rheidrwydd i wisgo mygydau mewn lleoliadau dan do yn dod i ben heddiw (dydd Llun, Chwefror 28).

O hyn ymlaen, fydd dim rhaid i bobol wisgo gorchudd wyneb mewn llu o lefydd dan do, gan gynnwys sinemâu, theatrau, canolfannau cymunedol, amgueddfeydd a champfeydd.

Ond fe fydd yn ofynnol o hyd i oedolion a phlant dros 11 oed eu gwisgo mewn pob lleoliad masnach, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau meddygol, oni bai bod yr unigolyn wedi’i eithrio – ond fe allai’r gofyniad hwn gael ei ddileu yn dilyn yr adolygiad nesaf.

Bydd canllawiau swyddogol yn parhau i bwysleisio gwisgo gorchudd wyneb fel ffordd o gadw pobol yn ddiogel ac mewn lleoliadau addysg, bydd awdurdodau lleol yn cael defnyddio disgresiwn a gwneud penderfyniad yn ôl eu hanghenion unigol yn eu hardaloedd eu hunain.

Fydd dim rhaid gwisgo gorchudd wyneb yn yr ystafell ddosbarth, ond dylid parhau i’w gwisgo mewn ardaloedd lle mae pobol yn ymgasglu mewn ysgolion uwchradd.

Dyma gam cynta’r llacio a gafodd ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford yn yr adolygiad diwethaf.

Bydd canlyniadau’r adolygiad nesaf yn cael eu cyhoeddi ar Fawrth 4.

‘Rhan o’n hymateb pwyllog a gofalus i’r pandemig’

“Rydyn ni wedi gweithio’n galed i sicrhau bod yr amddiffyniadau sydd gennym yn eu lle yn gymesur â sefyllfa iechyd y cyhoedd a’r risg yn sgil y coronafeirws,” meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

“Gyda diolch i’r gwaith caled gan bawb a’r holl maent wedi’i aberthu, mae achosion o’r coronafeirws yn gostwng ledled Cymru. Nawr yw’r amser iawn i lacio’r gofyniad cyffredinol i wisgo gorchudd wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus o dan do.

“Ond byddwn yn parhau â’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb, gan gynnwys mewn lleoliadau manwerthu, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n cael eu defnyddio’n helaeth ac sy’n sectorau hanfodol.

“Mae hyn yn rhan o’n hymateb pwyllog a gofalus i’r pandemig. Byddwn yn parhau i ystyried y dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf er mwyn llywio’n dull gweithredu.

“Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddaf yn gosod ein cynlluniau hirdymor ar gyfer delio â’r pandemig wrth inni gynnal yr adolygiad tair wythnos rheolaidd o’r rheoliadau.”